Ewch i’r prif gynnwys

Cymryd rhan

Sign up to participate in one of our world-leading brain imaging studies.

A participant lies in an MRI scanner while a male and female researcher operate the scanner
Mae ymchwilwyr yn perfformio sgan MRI ar wirfoddolwr.

Cofrestrwch i gymryd rhan yn un o'n hastudiaethau delweddu’r ymennydd sy'n arwain y byd.

Gwirfoddoli

Gwirfoddolwch i gymryd rhan yn astudiaeth yn y Ganolfan Byddwch yn cael y cyfle i brofi sgan gan ein cyfarpar niwroddelweddu arloesol, a chyfrannu at faes niwrowyddoniaeth trwy ein helpu i ddeall yr ymennydd ac achosion sylfaenol cyflyrau niwrolegol a seiciatrig yn well.

Os ydych chi'n ymchwilydd sydd â diddordeb mewn defnyddio ein cyfarpar, gallwch wneud cais i ddefnyddio ein cyfleusterau.

Cofrestru

Os hoffech chi gofrestru i gymryd rhan yn astudiaethau Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), ewch i'n tudalen we ar gyfer recriwtio cyfranogwyr.

Noder bod y Ganolfan yn gyfleuster ymchwil yn unig, a ni chewch unrhyw gyngor neu ddiagnosis meddygol ar ôl cymryd rhan yn astudiaeth ymchwil, ac ni fyddwch yn cael copi o'r delweddau.

Nid yw ein hymchwilwyr wedi eu hyfforddi'n feddygol a ni allwn gynnig unrhyw farn feddygol neu driniaeth ar ôl i chi gael sgan.

Mae’r holl ddelweddau yn cael eu cadw’n ddienw ar ein cronfa ddata diogel. Mae’r delweddau yn hygyrch i’n hymchwilwyr at ddibenion gwneud ymchwil wyddonol yn unig.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi gofrestru neu ofyn unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni:

Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd

Hysbysiad preifatrwydd diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a rowch yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch chi, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych chi uchod. Gallwch dynnu'r caniatâd hwn yn ôl ar unrhyw bryd drwy gysylltu â Chanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data personol ei brosesu. Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol gan e-bostio- inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).