Cyfleoedd PhD
Rydym yn cynnig amgylchedd rhagorol i gynnal ymchwil niwrowyddoniaeth, gyda’n hamrywiaeth eang o gyfleusterau delweddu dan yr un to.
Mae hefyd cyfleoedd aml i wneud PhD mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiannol, sy'n rhoi profiad diwydiannol perthnasol i fyfyrwyr ochr yn ochr â’u gwaith ymchwil academaidd.
Rydym yn denu’r myfyrwyr gorau o amgylch y byd i’n rhaglenni ôl-raddedig, ac yn ystyried ceisiadau gan ystod eang o gefndiroedd academaidd, fel:
- peirianneg fiofeddygol
- bioleg
- cyfrifiadureg
- peirianneg electronig
- meddygaeth
- niwrowyddorau
- ffiseg
- seiciatreg
- seicoleg
Cynigir y rhaglenni gan yr Ysgol Seicoleg.
Yr ydym hefyd yn gallu cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr PhD cylchdro o Ysgolion eraill yn y Brifysgol am gyfnod penodol fel rhan o'n menter i annog cyfnewid syniadau rhyngddisgyblaethol.
Dysgu mwy a gwneud cais
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc penodol yn drwyadl.