Pobl
Rydym yn gartref i grŵp bywiog o ôl-raddedigion, cymrodorion ymchwil a ariennir yn allanol a gwyddonwyr ôl-ddoethuriaeth.
Rydym hefyd yn cynnwys academyddion, rheolwyr labordy a staff cymorth craidd, ac ategir y grŵp hwn ymhellach gan ymchwilwyr ymweld, cydweithwyr, partneriaid diwydiannol ac interniaid rydym yn rhannu ein coridorau ac i gyfnewid syniadau a gwybodaeth gyda hwy.
Ymagwedd amlddisgyblaethol
Daw'r Ganolfan o dan fframwaith yr Ysgol Seicoleg, ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd meddwl yn arloesol ac yn greadigol, a byddwn yn cyflawni hyn drwy ddwyn ynghyd staff a myfyrwyr o Ysgolion eraill yn y Brifysgol, gan gynnwys yr Ysgol Biowyddorau, Ysgol Gyfrifiadureg, Ysgol Peirianneg, Ysgol Feddygaeth, Ysgol Optometreg a Gwyddorau Gweledigaeth, a'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.
Tîm rhyngwladol
Mae’r ystod eang o arbenigedd wedi ei leoli o dan un to yn cyfrannu at ein cymuned fywiog, amlddisgyblaethol sydd gennym yma yn y Ganolfan. Rydym hefyd yn uned ymchwil rhyngwladol iawn, gyda staff a myfyrwyr yn dod o fwy na 30 o wledydd gwahanol ledled y byd.
Rydym yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau sy'n arddangos ein gwaith ymchwil ac yn ennyn diddordeb ein myfyrwyr, staff a'r cyhoedd ehangach