Gweithdy ac argraffu 3D
Mae ein gweithdy yn cynnwys y peiriannau a'r staff arbenigol sydd eu hangen i ddylunio, atgyweirio a chreu offer arbenigol.
Rôl y gweithdy mecanyddol yw darparu cymorth technegol i staff a myfyrwyr yn CUBRIC. Rydym yn peiriannu cydrannau mecanyddol i fanyleb uchel iawn gan ddefnyddio dulliau peiriannu confensiynol a CAD. Mae ein tîm o dechnegwyr sgilgar iawn yn cynhyrchu offer pwrpasol yn rheolaidd, sydd wedi'i deilwra ar gyfer prosiectau ymchwil penodol sy’n ymwneud â delweddu’r ymennydd.
Argraffu 3D
Mae gennym ddau argraffydd 3D (Stratasys Objet30 a Formlabs Form 2), sy'n ein galluogi i lunio prototeipiau cyflym o safon uwch i gefnogi ein hymchwil, gan weithio o frasluniau pensil a lluniadau CAD. Mae gennym hefyd fainc waith electroneg, safle sodro a pheiriant melino 3D Roland Modela MDX-40A.
Cyfarpar
Mae ein gweithdy yn cynnwys y cyfarpar arbenigol canlynol:
- Argraffydd 3D Stratasys Objet30
- Argraffydd 3D Formlabs Form 2
- Safle sodro cryptonig digidol â thymheredd a reolir
- Gwyntyll melino micro Proxxon MF70
- Ffan echdynnu mygdarth Purex
- Turn PD 400
- Dril piler Sealey
- Cylchlif Record BS250
- Melin Roland Modela MDX-40A
- Formech FLB500
- SX2 Mini Mill
- Osgilosgop digidol Tektronic TBS 10252B-EDU
- Amlfesurydd desg digidol Fluke 8808A 5-1/2 (C2)
- Cywasgydd distaw Bambo
- Cyflenwad pŵer ISO- tech IPS 2303 Laboratory DC
- Generadur swyddogaeth fympwyol Tektronicx AFG1022
Prosiectau wedi’u cwblhau
Cafodd pob un o’r prosiectau canlynol eu hadeiladu’n bwrpasol ar y safle gan ddefnyddio'r offer a'r cyfarpar yn ein gweithdy.
Gwnewch gais i ddefnyddio ein cyfleusterau at ddibenion ymchwil, masnachol neu glinigol.