Ein cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau ar gael i’w defnyddio at ddibenion ymchwil, masnachol neu glinigol.
Mae angen i bob prosiect yn y Ganolfan i gael eu cymeradwyo cyn eu cynnal.
Mae angen inni asesu eich prosiect er mwyn sicrhau bod:
- yr adnoddau yr ydych yn gofyn amdanynt (oriau sgan, cymorth staff, ac ati) yn briodol y gallwn eu cyflawni gennym yn ystod y prosiect
- y dulliau mwyaf priodol o niwroddelweddu a'r paramedrau caffael yn cael eu defnyddio a bod y rhain yn briodol i'r cwestiwn gwyddonol.
Y broses gymeradwyo
Mae angen ffurflenni datgan diddordeb (EOIs) ar gyfer pob astudiaeth newydd yn CUBRIC. Mae’r wybodaeth a gawn o’r ffurflen yn helpu ein tîm gweithredol i gael syniad faint o adnoddau sydd eu hangen arnoch, sy’n ein galluogi i wneud yn siŵr eich bod yn cael lefel uchel o gefnogaeth wrth gynnal eich ymchwil yma. Mae gan y broses gymeradwyo amser prosesu o bedair wythnos.
Rhaid i'r holl geisiadau eraill fynd drwy’r broses mynegiant o ddiddordeb (EOI).
Er enghraifft:
- ceisiadau grant newydd
- Myfyrwyr PhD o Ysgolion eraill
- carfannau clinigol
- carfannau mawr (ymgynghorwch â rheolwr, neu reolwyr, labordy perthnasol)
Os ydych yn bwriadu gwneud cais am unrhyw un o'r rhain, lawrlwythwth a llenwch ein ffurflen mynegi diddordeb.
Ar gyfer sganio clinigol neu fasnachol, anfonwch ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer astudiaethau clinigol/masnachol.
Bydd hefyd angen i ddarllen ein rheolau, gweithdrefnau a'r asesiadau risg perthnasol, yn ogystal â llofnodi ffurflen yn dweud eich bod wedi eu darllen a’u deall.
Wrth asesu'r ffurflenni, rydym yn dilyn y broses ganlynol ar gyfer gwneud penderfyniadau:
- Mewn achosion lle na gofynnir am ostyngiad, gall y Rheolwr Labordy perthnasol, y Rheolwr Cyfrifo a Data a Rheolwr y Ganolfan gymeradwyo’r ffurflen.
- Mewn amgylchiadau arbennig, neu achosion unigryw, mae’n bosibl y bydd y Pennaeth Moddolrwydd yn dewis ei godi yn y cyfarfod Tîm Rheoli CUBRIC er mwyn dod i benderfyniad.
Astudiaethau gyda chyfranogwyr dynol
Os ydych chi'n cynnal astudiaeth gyda chyfranogwyr dynol, mae’n rhaid bod gennych gymeradwyaeth moeseg gan yr Ysgol berthnasol, pwyllgor moeseg GIG lleol neu Awdurdod Ymchwil Iechyd cyn dechrau eich astudiaeth. Bydd pob astudiaeth hefyd angen cael eu cofnodi gyda Pwyllgor Moeseg Ysgol Seicoleg.
Grantiau sy’n bwriadu defnyddio ein cyfleusterau
Ni ellir cyflwyno unrhyw gais mewnol nac allanol am grant gan ddefnyddio ein hadnoddau heb ddarparu ffurflen mynegiant o ddiddordeb neu ffurflen llwybr carlam cyflawn a chael cymeradwyaeth .
Yn yr Ysgol Seicoleg, mae’r ffurflenni hyn yn rhan ofynnol o’r broses Adolygu Cymheiriaid Mewnol (IPR), ond rhaid iddynt hefyd gael eu cwblhau ar gyfer grantiau dan arweiniad Ysgol arall ym Mhrifysgol Caerdydd, neu yn wir am grantiau a arweinir gan ymchwilydd allanol.
At hynny, mae angen i unrhyw grant sy’n bwriadu defnyddio ein cyfleusterau gael ei hadolygu gan gymheiriaid gan berson priodol o’r Ganolfan (neu'r rhan berthnasol ohoni, os yw'n cynnwys amrywiaeth o ddulliau). Edrychwch ar ein tudalennau pobl i ddewis aelod perthnasol o staff.
Yn ogystal ag archwilio'r dichonoldeb yr astudiaeth, lle y bo'n briodol, bydd y broses hon yn caniatáu i wyddonwyr o fewn y Ganolfan i awgrymu addasiadau a allai helpu i wella ansawdd cais a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn cael ei ddyfarnu.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau at:
CUBRIC EOI
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch llenwi'r ffurflen, cysylltwch â ni, a wnewn ni eich cyfeirio at y person perthnasol.
Fel arall, cysylltwch â’r rheolwr labordy perthnasol yn uniongyrchol os oes gennych ymholiad technegol penodol.
Ar ôl i chi wneud cais
Ar ôl ei gyflwyno, bydd ein Cyfarwyddiaeth yn ystyried eich ffurflen, mewn ymgynghoriad â’r rheolwr labordy perthnasol. Bydd yr holl benderfyniadau yn cael eu cofnodi a’u hadrodd i Bwyllgor Ymchwil Ysgol Seicoleg i sicrhau tryloywder.
Anfonebu costau sganio
Bydd angen i chi gael arian ar waith cyn dechrau ar eich astudiaeth.
Mae'r tâl yn cynnwys caffael data, gyda chymorth gan ein staff fel bo angen, ail-greu'r ddelwedd a throsglwyddo delweddau a data cysylltiedig (e.e. mesurau ymddygiadol) dros ein rhwydwaith. Bydd data crai a delweddau wedi'u hailadeiladu'n cael eu harchifo yma yn y Ganolfan.
Nid yw’r tâl hwn yn gymwys i amser y gallai fod ei angen i ddadansoddi data neu i sefydlu astudiaeth i ddechrau – er enghraifft, i dreialu dilyniant caffael newydd neu i fireinio’r cyflwyniad ysgogol neu’r paramedrau'r dasg.
Cyfraddau ar gyfer ymchwilwyr Prifysgol
I ddarganfod mwy am y cyfraddau sganio ar gyfer ymchwilwyr Prifysgol, anfonwch e-bost:
CUBRIC EOI
Cyfraddau ar gyfer pob ymgeisydd arall
Am wybodaeth am sganio cyfraddau ar gyfer pob ymgeisydd arall, megis ceisiadau clinigol neu fasnachol, ebostiwch:
CUBRIC Centre Manager
Rydym yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau sy'n arddangos ein gwaith ymchwil ac yn ennyn diddordeb ein myfyrwyr, staff a'r cyhoedd ehangach