Ffisioleg serebro-fasgwlaidd
Mae llawer o’n dulliau yn gofyn am her anadlol yn ystod y sgan MRI er mwyn meintoli newidiadau mewn egnïeg meinweoedd.
Fel arfer, mae hyn yn cynnwys cyflwyno amrywiadau mewn cymysgeddau nwyon CO2 ac O2, yn ogystal ag aer awyr i'r cyfranogwr drwy gylched anadlu.
Mae gennym amrywiaeth o systemau mewnol wedi'u lleoli o fewn pob swît 3T a 7T MRI y gellir ei ddefnyddio ar gyfer arbrofion lle rydym eisiau meintoli newidiadau metabolig o fewn yr ymennydd.
Mae ein trefniant diweddaraf yn cynnwys systemRespirActsy'n caniatáu i'r ymchwilydd reoli crynodiadau llanw diwedd y cymysgeddau nwyon y mae’r cyfranogwr yn anadlu allan.
Rydym hefyd wedi datblygu siambr Pwysedd Negyddol Corfforol Isaf (LBNP) sy'n cyd-fynd â MR i ddarparu heriau pwysedd gwaed i fesur rheoleiddio awto o fewn amgylchedd MR.
Yn ogystal â’r systemau herio ffisiolegol hyn, mae gennym labordy ffisioleg llawn offer lle rydym yn cynnal astudiaethau ymyrryd ymarfer corff.
Gallwch ddysgu mwy am ein hoffer ymchwil, gan gynnwys y gwneuthurwr, y model a galluoedd, ar ein cronfa ddata.