Labordai delweddu atseiniol magnetig
Mae gennym bedwar labordy MRI gyda chyfuniad o offer sy'n ei gwneud yn gyfleuster unigryw yn Ewrop.
Mae pob ystafell MRI yn cynnwys monitro seicolegol uwch, cyfleusterau ar gyfer gweinyddu nwyon ac offer darparu ysgogiad manyleb uchel. Mae’r ystafelloedd microstrwythur a meysydd hynod uchel hefyd yn cynnwys offer arloesol ac offer cywiro arteffactau.
Sut mae MRI yn gweithio
Mae delweddu atseiniol magnetig (MRI) yn defnyddio curiadau amledd radio a meysydd magnetig cryf i fesur signalau magnetig gwan sy’n tarddu o foleciwlau dŵr yn y corff. Mae’r signalau magnetig bach iawn sy’n deillio o’r rhain yn cael eu mesur gan dderbynnydd arbennig ac yna’n cael eu prosesu gan gyfrifiadur pwrpasol y sganiwr i gynhyrchu delweddau manwl o du mewn i’r corff dynol.
Mae’r dechneg hon yn anymwthiol ac nid yw’n defnyddio unrhyw fath o ymbelydredd ïoneiddio. Ar hyn o bryd mae galw mawr am MRI mewn ysbytai byd eang i archwilio’r corff dynol i ganfod a monitro clefydau.
Hefyd, defnyddir MRI yn eang mewn cyfleusterau ymchwil ar gyfer astudio a dealltwriaeth o’r corff dynol mewn perthynas â mesur ac astudio iechyd dynol, swyddogaeth a lles.
Ein cyfleusterau a’n hoffer
Gwneir y rhain yn bosibl drwy gefnogaeth Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ESPRC, The Wolfson Foundation, y Cyngor Ymchwil Meddygol ac Ymddiriedolaeth Wellcome. Dysgu mwy am ein cyllidwyr.
Cyfleuster delweddu microstrwythur cenedlaethol
Mae’r cyfleuster hwn yn cynnwys system Tesla Connectom Siemens 3 - un o bedair system o’r fath yn y byd.
Gwyliwch fideo am ein sganiwr MRI Connectom 3T.
Mae’r system fanwl hon yn cynnwys coiliau graddiant 300 mT/m sydd fel arfer bedair gwaith yn gryfach na’r rhai hynny sydd mewn systemau MR confensiynol. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr i brocio microstrwythur meinweoedd yn llawer manylach.
Mae’r labordy microstrwythur hefyd yn cynnwys camera maes ar gyfer pennu nodweddion tonffurfiau graddiant i gywiro’r llwybr caffael.
Labordy MRI ymchwil glinigol
Gyda system Prisma 3 T Siemens wedi’i leoli’n agos i’r cyfleuster ymchwil clinigol, mae’r labordy hwn yn addas iawn ar gyfer rhedeg astudiaethau ymchwil ar garfannau mawr o gleifion neu ar gyfer treialon fferyllol. Y Prisma yw’r sganiwr 3T ymchwil mwyaf datblygedig sydd ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys graddiannau 80 mT/m a hyd at 128 RF o sianeli derbyn.
Gwyliwch fideo am ein system Prisma 3T
Labordy MRI arbrofol
Mae’r labordy MR arbrofol yn cynnwys system 3 T Prisma union yr un fath â’r labordy MRI ymchwil clinigol. Mae gan y labordy hwn TMS-MRI ac EEG-fMRI cydamserol, ynghyd â system olrhain llygaid optegol ar gyfer mesur a darpar gywir symudiad cyfranogwyr mewn amser real, ac amrywiaeth o offer cyflwyno ysgogiad.
Gwyliwch fideo am ein system Prisma 3T.
Labordy MRI maes hynod uchel
Mae’r labordy hwn yn cynnwys system 7 Tesla Magnetom Siemens sy’n seiliedig ar fagned gweithredol Agilent 7T/830 wedi’i orchuddio. Mae’r system yn meddu ar raddiannau 70 mT/m, technoleg trosglwyddo paralel Siemens (pT x Step 2.3), ac mae ganddo allu aml-niwclear i fanteisio’n llawn ar gryfder maes uchel.
Gwyliwch fideo am ein Tesla 7.
Mae gan y labordy mae hynod uchel hefyd gamera maes Skope.
Efelychydd MR
Efelychydd MR yw un sy'n anweithredol ac nad yw'n cynnwys magned. Gydag ymddangosiad yr un fath â 3T Prisma, mae ein hefelychydd MR yn galluogi cyfranogwyr i ymgynefino ag amgylchedd MR cyn mynd i'r sganiwr MRI go iawn.
Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer astudiaethau sganio plant neu grwpiau o gleifion, neu'r rhai sy'n rhedeg arbrofion ymddygiadol cymhleth.
Gallwch ddysgu mwy am ein hoffer ymchwil, gan gynnwys y gwneuthurwr, y model a galluoedd, ar ein cronfa ddata.