Labordai electroenceffalograffi
Gwyliwch fideo am electroenceffalograffi
Mae gennym dri labordy Electroenceffalograffi (EEG) pwrpasol lle’r ydym yn cynnal ymchwil arloesol ar yr ymennydd.
Sut mae EEG yn gweithio
Mae electroenceffalograffi (EEG) yn dechneg anymwthiol a ddefnyddir i fonitro gweithgarwch trydanol yr ymennydd. Mae potensial trydanol yn perthyn i bob niwron unigol, ond mae hyn yn llawer rhy fach i'w ganfod drwy EEG. Felly, mae gweithgarwch EEG yn cynrychioli cyfanswm y miliynau o niwronau sy'n tanio gyda'i gilydd ac sydd o gyfeiriadedd gofodol tebyg. Credir bod y gweithgarwch a welwn yn yr EEG yn adlewyrchu niwronau pyramidaidd yn bennaf.
Caiff EEG ei berfformio’n aml drwy osod cap elastig gydag electrodau wedi'u mewnosod ynddo o gwmpas pen y cyfranogwr. Mae'r electrodau’n mesur gweithgarwch yr ymennydd, ac wedyn caiff y gweithgarwch hwn ei chwyddo, ei ddigideiddio a'i gofnodi gan gyfrifiadur i'w ddadansoddi ymhellach. Mae EEG yn ffordd ddiogel ac anymwthiol o fesur gweithgarwch yr ymennydd.
Defnyddio EEG
Mae EEG yn ddefnyddiol ar gyfer gwaith ymchwil a gwaith clinigol. Fe'i defnyddiwyd yn eang i ymchwilio i gwestiynau ymchwil mewn niwrowyddoniaeth wybyddol a seicoleg. Gydag arbrofion sydd wedi’u dylunio’n briodol, gellir defnyddio cydraniad amser rhagorol EEG (hyd at hyd yn oed yn fyrrach nag 1 milieiliad) i ymchwilio i swyddogaethau gwybyddol gwahanol megis: sylw, canfyddiad, prosesu clywedol, paratoi echddygol, iaith, a chof.
Ein cyfleusterau EEG
Mae gennym dri labordy EEG ac un ystafell baratoi gyda chyfleusterau ymolchi pwrpasol. Mae gan bob labordy systemau BioSemi ActiveTwo, ac mae system Brain Vision Quickamp oddefol gan Brain Products ar gael hefyd ar gais. Yn ogystal, mae gan bob un o'r tri labordy gyfrifiaduron sy’n gallu cyflwyno ysgogiadau a chasglu ymatebion gan gyfranogwyr drwy fysellfyrddau neu flychau ymateb, ynghyd â'u gweithgarwch EEG.
Mae'r systemau BioSemi ActiveTwo yn gallu cofnodi hyd at 128 o sianeli gydag ystod o gyfraddau samplu yn amrywio o 2048 i 8192 Hz. Mae’r system Brain Vision Quickamp yn gallu cofnodi hyd at 128 o sianeli gydag ystod o gyfraddau samplu yn amrywio o 125 i 2048 Hz. Mae capiau ar gyfer y ddwy system ar gael hefyd, mewn amrywiaeth o feintiau (52-62 cm). Mae Matlab (Cogent a Psychtoolbox), E-Prime a PsychoPy ar gael yn y labordai. Mae platfformau cyflwyno eraill ar gael ar gais.
Hefyd, gellir defnyddio recordio EEG ar yr un pryd â thechnegau MRI, MEG neu Ysgogi’r Ymennydd, yn ogystal ag ar gyfer astudiaethau datblygiadol neu astudiaethau cwsg.
Yn ogystal â’r systemau EEG, mae gennym system ddigideiddio Polhemus Fastrak ar gyfer digideiddio lleoliadau electrodau a siapiau pennau. Mae gwybodaeth am leoliad yr electrodau’n gallu hwyluso astudiaethau gan ddefnyddio lleoliadau ffynonellau.
Gallwch ddysgu mwy am ein hoffer ymchwil, gan gynnwys y gwneuthurwr, y model a galluoedd, ar ein cronfa ddata.