Labordai ysgogi'r ymennydd
Rydym yn rhedeg pedwar labordy ymroddedig i dechnoleg ysgogi ymennydd diweddaraf.
Mae ysgogi yn nwfn yr ymennydd yn set o ddulliau a ddefnyddir mewn ymchwil ac ymarfer clinigol i ysgogi niwronau yn yr ymennydd. Mae’r technegau hyn wedi cael eu defnyddio i drin amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys clefyd Parkinson, iselder ac epilepsi.
Ysgogiad trydanol trawsgreuanol
Mae ein cyfleusterau ysgogiad trydanol trawsgreuanol (tES) yn cynnwys tES sy'n gydnaws â MR, tES amlsianel a galluoedd cynhyrchu tonffurf sy'n caniatáu protocolau tES newydd gael eu treialu a'u rhoi ar waith. Rydym yn defnyddio tES mewn amrywiaeth o leoliadau sylfaenol a chymhwysol, gan gynnwys astudiaethau synhwyraidd-weithredol, niwroffisioleg, canfyddiad a rheolaeth wybyddol.
Rydym hefyd wedi sefydlu meincnodau methodolegol a phrotocolau safonol ar gyfer sicrhau ceisiadau diogel a atgynyrchadwy o tES.
Symbyliad magnetig trawsgreuanol
Mae cyfleusterau symbyliad magnetig trawsgreuanol (TMS) yn cynnwys nifer o systemau ar gyfer protocolau patrymog ac ailadroddus all-lein (gan gynnwys symbyliad byrstio theta), ysgogiad pwls mewn parau i fesur GABAergic a glwtamatergic niwroffisioleg a thechnoleg arbenigol ar gyfer MRI TMS ac 3T cydamserol.
Rydym wedi bod ar flaen y gad o ran gwelliannau methodolegol TMS ac TMS-MRI, gan gynnwys shim goddefol sydd bron yn dileu un o brif ffynonellau ymyrraeth rhwng y technegau.
Yn ogystal â thechnoleg ysgogi yn nwfn yr ymennydd, mae ein labordai yn meddu ar systemau niwromordwyo diweddaraf i ganiatáu targedu TMS i ranbarthau corticaidd penodol wedi eu lleoli o fewn sganiau MRI unigol.
Cyfleusterau ychwanegol
Mae cyfleusterau ychwanegol yn cynnwys tracio llygaid, electromyograffeg (EMG) a systemau ar gyfer cyflwyno ysgogiadau gweledol, clywedol a chorfforol-synhwyraidd.
Gallwch ddysgu mwy am ein hoffer ymchwil, gan gynnwys y gwneuthurwr, y model a galluoedd, ar ein cronfa ddata.