Seminarau
Rydym yn cynnal rhaglen reolaidd o seminarau mapio yr ymennydd ar gyfer staff, myfyrwyr a'r cyhoedd.
Mae seminarau yn cael eu cynnal bob dydd Llun yn ystod amser tymor am 12:10, oni nodir yn wahanol.
Byddant yn cael eu cynnal yn ystafell seminar 2 CUBRIC, oni nodir yn wahanol.
Mae'r seminarau ar gael yn Saesneg yn unig. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu seminar mapio'r ymennydd anfonwch ebost at cubric@caerdydd.ac.uk.
Gall staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd weld recordiadau blaenorol o'r seminarau.
Digwyddiadau i ddod
Dyddiad | Amser | Siaradwr | Teitl | Lleoliad |
---|---|---|---|---|
25 Tachwedd 2024 | 16:10 | Elizabeth Davenport - UT Southwestern Medical Center | Magnetoencephalography (MEG) a Chyfergyd | Zoom |
2 Rhagfyr 2024 | 12:10 | Alessio Fracasso - Prifysgol Glasgow | I'w gadarnhau | Zoom |
Digwyddiadau'r gorffennol
Mae rhai o ddisgrifiadau digwyddiadau'r gorffennol ar gael yn Saesneg yn unig.
Dyddiad | Amser | Siaradwr | Teitl | Lleoliad |
---|---|---|---|---|
11 Tachwedd 2024 | 12:10 | Charlotte Rae - Prifysgol Sussex | Sut mae gweithio 4 diwrnod yr wythnos yn newid y meddwl, yr ymennydd a’r corff? Bydd hefyd drafodaeth ar sut mae niwroddelweddwyr yn gallu lleihau eu heffeithiau amgylcheddol | CUBRIC |
4 Tachwedd 2024 | 12:10 | Anastasia Yendiki - Prifysgol Harvard | Tuag at greu conectôm dynol ar raddfa feicro | Zoom |
28 Hydref 2024 | 12:10 | Antoine Theberg - Prifysgol Sherbrooke | Algorithmau tractograffeg gyda gwybodaeth fyd-eang gan ddefnyddio Newidyddion. | Zoom |
22 Hydref 2024 | 13:10 | Ed X Wu - Prifysgol Hong Kong (HKU) | MRI maes isel iawn ar gyfer Gofal Iechyd Hygyrch: Yn ôl i'r dyfodol drwy gyfrifiadura? | Zoom |
21 Hydref 2024 | 12:10 | Amy Lynham/James Walters - CUBRIC | Asesiad Gwybyddol Ar-lein Caerdydd (CONCA): Adnodd ar-lein ar gyfer ymchwil seiciatrig. | CUBRIC |
14 Hydref 2024 | 12:10 | Melissa Wright - CUBRIC | Dylanwad hormonau ar iechyd a gweithrediad fasgwlaidd yn y llygad a’r ymennydd; o N=1 i ddata mawr. | CUBRIC |
30 Medi 2024 | 12:10 | Eckart Altenmüller - Prifysgol Hannover | Cerddoriaeth a niwroblastigedd | Zoom |
23 Medi 2024 | 12:10 | Curtis Johnson - Prifysgol Delaware | Niwroddelweddu Mecanyddol gydag Elastograffeg Cyseiniant Magnetig | Zoom |
29 Ebrill 2024 | 12:10 | Fulvia Palesi - Prifysgol Pavia | Tuag at efeilliaid digidol i ymchwilio i glefydau’r ymennydd | Zoom |
22 Ebrill 2024 | 16:10 | Emily Jacobs - Prifysgol California, Santa Barbara | Modyliad dynamig endocrinaidd o’r system nerfol | Zoom |
15 Ebrill 2024 | 16:10 | Michael Pratte - Prifysgol Talaith Mississippi | Sut mae meysydd gweledol cynnar yn dylanwadu ar sylw a’r cof? | Zoom |
8 Ebrill 2024 | 12:10 | Christopher Osuafor - Prifysgol Caergrawnt | Optimeiddio angiograffeg cyseiniant magnetig amser-hedfan (TOF) at ddibenion delweddu’r arteriae centrales anterolaterales ar 7T er mwyn deall clefyd meicrofasgwlaidd. | Zoom |
25 Mawrth 2024 | 12:10 | Pernille Hammer - Prifysgol Rutgers | Mesur ymdeimlad o alluedd | CUBRIC |
18 Mawrth 2024 | 12:10 | Natalie Jones - CUBRIC | O ddatblygu cyffuriau i’r treialon cyntaf ar fodau dynol (FIH trials) ym Mhrifysgol Caerdydd. | CUBRIC |
26 Chwefror 2024 | 16:00 | Michal Wierzchon - Prifysgol Jagiellionian Krakow | Mecanweithiau gwybyddol a niwral ymwybyddiaeth metawybyddol | CUBRIC |
29 Ionawr 2024 | 12:10 | Sophie Fitzsimmons - Amsterdam UMC | Symbyliad magnetig trawsgreuanol ailadroddus ar gyfer anhwylder gorfodaeth obsesiynol: defnyddio fMRI i ddeall triniaeth sy'n dod i'r amlwg | CUBRIC |
11 Rhagfyr 2023 | 12:10 | Emily Louise Baadsvik - ETH Zürich | Mapio’r haen ddeuol myelin â MRI T2-byr | CUBRIC |
4 Rhagfyr 2023 | 12:10 | Nico Damestani - MGH | Trin a thrafod y berthynas rhwng llif gwaed yr ymennydd a heneiddio iachach | CUBRIC |
27 Tachwedd 2023 | 12:10 | Rich Harrison - Prifysgol Reading | "Rwy’n dod i’r arfer ag e: Sefydlogrwydd addasu poen a'i gysylltiad â deinameg hipocampaidd" | CUBRIC |
20 Tachwedd 2023 | 12:10 | Mara Cercignani - CUBRIC | Dulliau a thechnegau CUBRIC | CUBRIC |
13 Tachwedd 2023 | 12:10 | Qianqian Yang - CUBRIC/ Prifysgol Queensland, Brisbane, Awstralia | Modelau cerdded ar hap amser parhaus a'u defnydd mewn sganiau trylediad MRI | CUBRIC |
6 Tachwedd 2023 | 12:10 | Yr Athro Dima - City, Prifysgol Llundain | Mapio gwahaniaethau swyddogaethol a strwythurol ymennydd mewn seicosis ar y cyd â geneteg | CUBRIC |
30 Hydref 2023 | 12:10 | Dr Hong-Viet V. Ngo-Dehning - Prifysgol Sussex | Ysgogi dolen gaeedig o gwsg di-rem | CUBRIC |
23 Hydref 2023 | 12:10 | Rik Henson - Prifysgol Caergrawnt | Ynglyn ag oedran, ymennydd a gwybyddiaeth: canfyddiadau carfan CamCAN | CUBRIC |
16 Hydref 2023 | 12:10 | Irvin Teh - Prifysgol Leeds | Trylediad Cardiaidd MRI - Cyfleoedd a Heriau | CUBRIC |
9 Hydref 2023 | 12:10 | Dr. Maura Malpetti - Prifysgol Caergrawnt | Llid yr ymennydd mewn dementia: beth allwn ni ei ddysgu o ddelweddu PET a marcwyr gwaed? | CUBRIC |
2 Hydref 2023 | 12:10 | Dr. Paddy Slator (CUBRIC) | Dysgu peiriannol heb oruchwyliaeth a hunan-oruchwyliaeth ar gyfer dadansoddi delweddau meddygol meintiol | CUBRIC |
15 Mai 2023 | 12:10 | Marco Catani | I'w gadarnhau | CUBRIC |
Cael cyfarwyddiadau i’n adeilad a chyngor ar barcio.