Digwyddiadau blaenorol
Mae ein digwyddiadau blaenorol yn amrywio o gynnal symposiwm rhyngwladol ar niwrowyddoniaeth i drefnu gŵyl ryngweithiol ar gyfer aelodau'r cyhoedd.
Gemau’r Ymennydd
Mae Gemau’r Ymennydd, a gynhelir yn flynyddol gan Brifysgol Caerdydd, yn llunio cyfres o weithgareddau hwyliog a rhyngweithiol sy’n cyflwyno plant i seicoleg a niwrowyddoniaeth, yn ogystal â chyfle i gwrdd â'n gwyddonwyr.
Bob blwyddyn cynhelir y gemau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan roi sylw i ystod o ymchwil sy'n gysylltiedig â'r ymennydd a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn ffordd hwyliog a hygyrch. O ddelweddau synhwyraidd a domau ymennydd pwmpiadwy i ‘Lawdriniaeth DIY ar yr Ymennydd’, mae’r digwyddiad blynyddol hwn, sydd am ddim, yn arddangos pŵer a dirgelwch ein horgan mwyaf hanfodol - sef yr ymennydd dynol!
Gwylio fideo o Gemau'r Ymenydd 2016.
Noson yr Ymennydd
Roedd y digwyddiad trawiadol hwn yn cynnwys gemau, perfformiadau, celf a gwyddoniaeth, oll wedi'u hysbrydoli gan y strwythur mwyaf cymhleth yn y bydysawd hysbys – sef eich ymennydd.
Roedd gweithgareddau’n cynnwys gemau’r ymennydd, arddangosfa o gelf yr ymennydd, sesiwn holi ac ateb ar niwrowyddoniaeth a chyfle i gyfarfod â’r gwyddonwyr.
MEG UK 2019
Cynhaliodd CUBRIC gynhadledd MEG UK 2019 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Daeth y gynhadledd â'r gymuned ryngwladol ymchwil MEG at ei gilydd am dri diwrnod o sgyrsiau a chyflwyniadau posteri cyffrous, gyda phrif areithiau gan arweinwyr yn y maes.
Cynhadledd Ymchwil Niwroddelweddu Prifysgol Caerdydd
Cynhaliwyd Cynhadledd Ymchwil Niwroddelweddu gyntaf Prifysgol Caerdydd yn gynnar yn 2019. Dros ddau ddiwrnod, cyflwynodd ymchwilwyr gyfanswm o 94 o sgyrsiau dwy funud am eu gwaith. Bu’r digwyddiad hwn yn arddangos ehangder yr ymchwil niwroddelweddu a wneir ym Mhrifysgol Caerdydd, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cydweithredu newydd traws-bwnc a thraws-adrannol rhwng cydweithwyr.
Teithiau haf
Bob haf, mae CUBRIC yn agor y drysau ar gyfer nifer o deithiau sy'n arddangos ein cyfleusterau o ansawdd rhyngwladol. Mae grwpiau Sgowtiaid, ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, ysgolion haf cenedlaethol a rhyngwladol, a grwpiau lleol eraill wedi ymweld â ni.
‘A Spin Thro' the History of Restricted Diffusion MR’
Ym mis Ionawr 2017, cynhaliodd CUBRIC gynhadledd ryngwladol hanesyddol o'r enw ‘A Spin Thro’ The History of Restricted Diffusion MR’. Daeth y cyfarfod hwn, a drefnwyd gan y Cyfleuster Delweddu Microstrwythur Cenedlaethol ac a gefnogwyd gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a Siemens Healthineers, â 24 o arloeswyr mwyaf blaenllaw'r byd mewn cyseiniant magnetig tryledol dros y 50 mlynedd diwethaf, at ei gilydd.
Roedd y siaradwyr nodedig yn cynnwys John Tanner (a ddyfeisiodd y dull adlais troellog graddiant pwls gydag Ed Stejskal), Denis Le Bihan (a ddyfeisiodd MRI tryledol), Mike Moseley (a oedd y cyntaf i nodi’r cwymp cychwynnol mewn trylededd mewn isgemia a hefyd anisotropedd yn yr ymennydd mamalaidd), Peter Basser (a ddyfeisiodd ddelweddu tensor tryledol), a mwy. Yn ogystal, roedd y gynhadledd yn cynnwys sgyrsiau gan arloeswyr cyfoes sy’n datblygu'r dulliau diweddaraf yn y maes hwn.
Gardd Einstein
Yn 2015, cydweithiodd ymchwilwyr niwrowyddoniaeth ar draws y Brifysgol i greu ‘Enhanced’, sef profiad croesi ffiniau a oedd yn cynnwys theatr byw, marchnata creadigol a rhywfaint o’r genhedlaeth nesaf o benblethau moesegol.
Roedd ymwelwyr i'r profiad (wedi ei leoli yng Ngardd Einstein Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn wynebu gwelliannau biolegol a werthwyd gan 'Ddiwydiannau Hybrid' ffuglennol-ac eto’n-gredadwy, a buont yn cymryd rhan yn y trafodaethau a'r arddangosiadau a oedd yn awgrymu nad yw pob un gwelliant biolegol yn ddymunol o reidrwydd.
Roedd ‘Enhanced’ yn ganlyniad grant ymgysylltu’r cyhoedd gan Ymddiriedolaeth Wellcome a’r nod oedd dod â gwyddonwyr a phobl greadigol at ei gilydd i greu profiadau newydd sy'n herio canfyddiad y cyhoedd o wyddoniaeth a chymdeithas.
Gwylwich fideo am Ardd Einstein's
Labordy Niwroledrith
Cynhaliom y Labordy Niwroledrith a bwerwyd gan agerbync yn Ngwyl y Dyn Gwyrdd 2014. Roedd y lab yn arddangos cymhlethdod ymennydd cyfranogwyr gydag arbrofion, gemau a digonedd o syndod.
2il Symposiwm Rhyngwladol Caerdydd ar MRS o GABA
Roedd y cyfarfod hwn, a gynhaliwyd ar 12-13 Medi 2013, yn dwyn gwyddonwyr ynghyd sy’n defnyddio sbectrosgopeg cyseinedd magnetig (MRS) o asid butyrig gama-amino (GABA) ar gyfer cwestiynau yn ymwneud â niwrowyddoniaeth glinigol a sylfaenol a gwyddonwyr sy'n gweithio ar faterion yn ymwneud â chaffael a phrosesu data.
Gan gyfuno arbenigedd arbenigol clyfar mewn niwroddelweddu, mae’r Ganolfan yn gymharol o ran maint i gyfleusterau yng Ngogledd America, gan alluogi i ymchwil a wneir yng Nghymru i gystadlu â’r gorau yn y byd.