Ymgysylltu â’r cyhoedd
Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau i helpu i esbonio’r agweddau mwyaf anhygoel ar ein hymchwil i’r ymennydd.
Mae ein tîm ymgysylltu â’r cyhoedd ymroddedig yn gweithio gydag ymchwilwyr i gynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â gweithgareddau ar-lein lle gallwch gymryd rhan o glydwch eich cartref.
Yn achos ymholiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, cysylltwch â ni braingames@caerdydd.ac.uk
Porwch drwy ein digwyddiadau blaenorol
Gwyddoniaeth wrth y tân (Fireside Science)
Mae Gwyddoniaeth wrth y tân yn brosiect ymgysylltu â’r cyhoedd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, sydd â’r nod o hyrwyddo dialog agored a chyd-ddealltwriaeth rhwng staff anghlinigol y GIG a gwyddonwyr academaidd yng Nghymru. Mae'r prosiect yn gydweithrediad rhwng ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Mae staff GIG Cymru yn gyswllt hanfodol rhwng y mathau o brosiectau a ariennir gan Wellcome a deilliannau trosiadol yn y clinig. Fodd bynnag, nid yw 37,000 o staff anghlinigol GIG Cymru’n ymwneud ag ymchwil yn uniongyrchol, a gallen nhw gwestiynau unrhyw fuddsoddiad ynddi pan fo diffyg adnoddau gan y GIG. Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar y diwylliant traddodiadol Cymreig o adrodd straeon, drwy ei ddefnyddio fel modd o hwyluso trafodaethau rhwng staff anghlinigol y GIG a gwyddonwyr am eu bywydau gweithio. Ffocws y prosiect hwn yw amlygu’r elfennau cyffredin o fywyd ym maes ymchwil ac yn y GIG, gyda’r potensial i feithrin perthnasau yn y dyfodol.
Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdy rhithwir hanner diwrnod fydd yn dysgu sgiliau cyfathrebu ac adrodd straeon trosglwyddadwy. Bydd hyn yn diweddu mewn cyfres o bodlediadau sgwrsio’n cael eu recordio i’w lledaenu yn ehangach.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gymryd rhan, ebostiwch FiresideScience@cardiff.ac.uk.
Fireside Science
NeuroSwipe
Gallwch helpu ymchwil i gyflyrau’r ymennydd drwy edrych ar sganiau o’r ymennydd.
Mae ymchwilwyr yn gweithio i wella iechyd a lles pobl drwy ddefnyddio sganiau o’r ymennydd, fel sganiau MRI sy’n ein helpu i ddeall cyflyrau fel dementia a sgitsoffrenia.
Hoffem ni gael eich help i ddweud wrthym pa ddelweddau sydd heb droi allan yn iawn.
Become a volunteer to get involved in our research