Swyddi
Ymuno â chymuned amlddisgyblaethol, fywiog a deinamig sy'n meithrin ymchwil sy'n arwain y byd.
Rydym yn gymuned amlddisgyblaethol, fywiog a deinamig o dros 200 o bobl, sy’n gweithio at y nod cyffredinol o integreiddio signalau o ymagweddau lluosog i ennill dealltwriaeth fwy holistig o’r ymennydd dynol ym meysydd iechyd a chlefydau.
Darganfyddwch fwy am ein pobl.
Swyddi gwag cyfredol
Chwilio'r holl swyddi gwag yn y brifysgol.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Mae gennym ymrwymiad cryf i sicrhau bod gan bawb gyfle cyfartal i gyfrannu at fywyd, gwaith a llwyddiant y Ganolfan.
Mae gennym ein grŵp gwaith Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ein hunain sy'n monitro prosesau'n barhaus ac yn ymateb i heriau er mwyn sicrhau bod cyfle cyfartal yn rhywbeth go iawn yn y ganolfan, yn hytrach na gair ffasiynol. Mae'n bwysig nodi bod hyn yn ymwneud â phob agwedd ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Darganfyddwch fwy am bolisi cydraddoldeb ac amrywiaeth yr ysgol.
Cyswllt cydraddoldeb ac amrywiaeth
Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth, neu os hoffech chi wneud awgrym o ran sut y gallwn wella ein cymorth, cysylltwch â:
Dr Christoph Teufel
Senior Lecturer, Joint-Lead for Cognitive Neuroscience
- teufelc@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5372
Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar Gaerdydd. Beth sy’n gwneud y brifddinas mor ddeniadol?