Cwrs Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau ym maes dadansoddeg gymdeithasol
Rydym wedi gweithio gydag ysgolion i ddatblygu a dysgu cymhwyster Lefel 3 ar gyfer y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau ym maes dadansoddeg gymdeithasol. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau mewn dulliau ymchwil gymdeithasol ac ystadegau.
Mae gan gwrs y fframwaith gysylltiadau â disgyblaethau pwnc amrywiol, ac mae’n datblygu ac yn adeiladu ar sgiliau a welir drwyddi draw yn y gwyddorau a’r dyniaethau, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer y brifysgol.
Mae’r cwrs hwn yn arbennig o berthnasol i’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cwblhau Bagloriaeth Cymru yn llwyddiannus, ac mae’n paratoi myfyrwyr â’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r prosiect unigol yn hyderus.
Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sydd â’r cymhwyster hwn yn cael cynnig uwch (cyd-destunol) er mwyn cael eu derbyn ar ein cwrs BSc Dadansoddeg Gymdeithasol.
Mae’r fenter hon wedi cryfhau cysylltiadau gydag ysgolion a cholegau addysg bellach lleol, yn ogystal â rhoi llwybrau dilyniant i fyfyrwyr er mwyn parhau â’u hastudiaethau o fewn addysg uwch.
Lansiwyd y cwrs mewn digwyddiad ar 24 Medi 2014, ac mae bellach yn cael ei ddysgu i fyfyrwyr Lefel 3 yng Ngholeg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant. Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu cymhwyster datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n addysgu Bagloriaeth Cymru ar lefel Uwch.