Astudio gyda ni
Rydym wedi datblygu llwybr israddedig rhyngddisgyblaethol ym maes dadansoddeg gymdeithasol, yn ogystal â rhaglen uchelgeisiol o ymgysylltu ar lefel Safon Uwch, drwy gymhwyster Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau.
Er mwyn gwella cymhwysedd meintiol ein myfyrwyr israddedig, rydym wedi creu rhaglen radd graidd arbenigol, lle mae ailddefnyddio modiwlau ar raglenni eraill yn datblygu diwylliant o wyddor gymdeithasol feintiol.
Yn ogystal, gwnaethom gydnabod bod angen rhoi rhaglen uchelgeisiol o beirianneg gymdeithasol ar waith hefyd er mwyn gwella cymhwysedd cyffredinol myfyrwyr. I wneud hyn, roeddem eisiau creu carfan wahanol o fyfyrwyr y gellir eu recriwtio i astudio BSc Dadansoddeg Gymdeithasol. Cynlluniwyd cymhwyster Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau newydd (yn cyfateb i lefel UG) gyda’r nod hwn mewn golwg.
Un o'r ffyrdd gorau o ddysgu mwy am astudio gyda ni yw mynd i un o'n diwrnodau agored neu drefnu ymweliad.