Gweithgarwch ymgysylltu
Rydym wedi datblygu sawl partneriaeth gydag ysgolion, colegau a sefydliadau yn ne Cymru er mwyn datblygu a dysgu cymhwyster Lefel 3 ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau ym maes dadansoddeg gymdeithasol, yn ogystal â chynnal digwyddiadau er mwyn ennyn diddordeb myfyrwyr ysgolion a cholegau yn y pwnc.
Dyma rai o’r sefydliadau rydym wedi gweithio gyda nhw:
- Agored Cymru (AC)
- Adran Ystadegau, Prifysgol Auckland, Seland Newydd
- Canolfan Addysg Ystadegol y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol (RSSCSE)
- Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC).
Mae’r ysgolion a’r colegau rydym wedi gweithio gyda nhw yn cynnwys:
- Coleg Caerdydd a'r Fro
- Coleg y Cymoedd
- Ysgol Gyfun Bryn Hafren
- Ysgol Uwchradd Babyddol Mair Ddifrycheulyd
- Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant
- Ysgol Abersychan
Digwyddiadau ymgysylltu
Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau er mwyn ymgysylltu ag athrawon a myfyrwyr mewn ysgolion ar draws de Cymru:
- Cynhadledd Bagloriaeth Cymru 2016: Y Prosiect Unigol
- Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol – byd llawn data
- Cynhadledd Bagloriaeth Cymru 2015
- Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol – pam dulliau meintiol?
- Lansio cynllun peilot Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau mewn dadansoddeg gymdeithasol
- Ysgol Haf ar Ddata 2014
- Cynhadledd i ddarlithwyr addysg uwch: ‘Lies, damned lies and statistics’
- Cynhadledd i athrawon addysg bellach: Llythrennedd ystadegol