Gweithgareddau CITER
Mae CITER yn cynnig nifer o weithgareddau ymgysylltu ag ysgolion sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm fel rhan o'r rhaglen allgymorth i Ysgolion Cynradd. Mae rhai o'r gweithgareddau hefyd yn cael eu harddangos mewn digwyddiadau cyhoeddus.
Mae ein tîm o wyddonwyr yn cyflwyno'r portffolio o weithgareddau i ennyn brwdfrydedd plant ifanc dros wyddoniaeth. Mae gweithgareddau wedi'u hanelu at blant yng nghyfnod allweddol 1 a chyfnod allweddol 2 ac yn eu dysgu am ryfeddodau peirianneg ac atgyweirio meinweoedd:
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- rasio cynrhon
- gwaed a chelloedd
- esgyrn ac organau
- brwydro bioffilm
- gemau symud adsefydlu rhithwir.
Cymerwch ran
Rydym yn gwahodd ysgolion cynradd i fynychu ein gweithdai a fydd yn ymgysylltu ag ysgolion yn y Brifysgol, yn ogystal ag ymweld ag ysgolion cynradd yng Nghaerdydd a'r ardaloedd cyfagos lle bo angen.
Mae ein gweithdai yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
CITER office
Gweithgareddau fideo ar-lein
Oeddech chi'n gwybod bod microbau da a drwg, neu bod modd defnyddio cynrhon i wella clwyfau? Ydych chi erioed wedi meddwl beth mae pob un o'n horganau yn ei wneud neu pa un yw'r asgwrn lleiaf yn y corff? Gofynnwch am ein gweithgareddau fideo i helpu i ddarganfod yr atebion i'r cwestiynau Gwyddoniaeth cŵl hyn a llawer mwy!
Cysylltwch â CITER i ofyn am y ddolen fideo a'r holl daflenni gweithgaredd cysylltiedig a manylion y gystadleuaeth ar gyfer y gweithgareddau hwyliog hyn!
Gwyliwch ein fideo am gynrhon ac iacháu clwyfau
Gwyliwch ein fideo am gynrhon ac iacháu clwyfau
Gwyliwch ein fideo am fyd microbau
Gwyliwch ein fideo am fyd microbau
Gwyliwch ein gweithgaredd am esgyrn ac organau
Rasio cynrhon
Nod y gweithdy Rasio Cynrhon yw amlinellu'r ffordd y mae cynrhon yn cael eu defnyddio wrth ofalu am glwyfau a’u gwella, gan ddefnyddio cyflwyniad poster byr. Yn dilyn y cyflwyniad mae plant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ras cynrhon hwyliog a rhyngweithiol. Bydd pob grŵp yn enwi cynrhonyn ac yn ei annog tuag at y llinell derfyn. Bydd perchennog y cynrhonyn buddugol yn cael tystysgrif.
Gwaed a chelloedd
Mae'r gweithgaredd 'gwaed a chelloedd' yn cynnwys sesiwn ar waed yn y corff gan gynnwys 'dyfalu faint o boteli o waed sydd yn ein cyrff', ffeithiau am gelloedd gwaed a disgrifiadau swydd ynghyd ag elfen ymarferol a chreadigol lle mae'r plant yn creu (ac yn cadw) cell o glai modelu.
Esgyrn ac organau
Mae'r gweithgaredd 'esgyrn ac organau' yn cynnwys gêm 'dyfalu pa mor fawr' lle mae'r plant yn dyfalu pa mor hir yw'r perfedd yn ein corff, pa mor drwm yw ein hymennydd, a faint o groen sy'n gorchuddio ein cyrff ynghyd â gweithgaredd lle mae'n rhaid i'r plant weithio allan ble mae esgyrn ac organau amrywiol yn mynd yn ein cyrff.
Gweithdy gwaed, esgyrn a phethau gwaedlyd
Mae'r gweithdy 'gwaed, esgyrn a phethau gwaedlyd' yn cynnwys y tri gweithgaredd uchod (esgyrn ac organau, gwaed a chelloedd a rasio cynrhon) lle caiff y gweithgareddau eu cyflwyno ar yr un pryd mewn sesiwn bore neu brynhawn i ddosbarth o 30 o blant.
Brwydro Bioffilm
Mae'r gweithdy 'Brwydro Bioffilm' yn weithgaredd ymarferol i blant ysgol ac aelodau o'r cyhoedd, a ddatblygwyd i gyflwyno microbau a bioffilmiau. Mae bioffilmiau'n gyffredin eu natur ac, fel y dull twf a ffefrir ar gyfer microbau, mae bioffilmiau'n effeithio ar sawl rhan o fywyd bob dydd. Mae'r gweithgaredd hwn yn ddeublyg gan ei fod yn cyflwyno plant yn gyntaf i ficrobau da a drwg tra bod plant yn cymryd rhan yn eu harbrawf eu hunain.
Mae hefyd yn tynnu sylw at gysyniadau allweddol bioffilmiau mewn perthynas â phlac deintyddol. Mae plant yn defnyddio plastisin i fodelu bacteria, gyda gel gwallt fel y sylwedd polymerig alloffer i ffurfio matrics bioffilm (slim). Yna, mae'r plant yn ceisio 'ffrwydro' yn gyntaf y bacteria rhydd, nad ydynt yn glynu, yna'r bioffilmiau a adeiladwyd ganddynt gan ddefnyddio pistolau dŵr. Y canlyniad yw bod bioffilmiau'n llawer anoddach i'w gwaredu sy'n esbonio pwysigrwydd brwsio rheolaidd i gael gwared ar blac deintyddol.
.
Gemau symudiadau adsefydlu rhithwir
Mae'r 'gemau symudiadau adsefydlu rhithwir' yn dysgu plant am symudiadau’r corff, swyddogaeth a phwysigrwydd cyhyrau a sut mae angen adsefydlu pan fydd cyhyrau'n cael trafferth gweithredu'n iawn. Mae'r gweithdy hwn yn tynnu sylw at y cysyniadau allweddol o sut y gall ymarferion corfforol helpu i gryfhau cyhyrau.
Mae'r gemau'n perfformio hyd at 17 o symudiadau unigryw sydd wedi'u seilio ar wyddorau symud i alluogi dadansoddiad safonedig, gwrthrychol o berfformiad symudiadau trwy synwyryddion symud diwifr sydd ynghlwm wrth flaen a chefn y corff. Mae'r synwyryddion yn dal y symudiadau lleiaf yn y corff mewn 3D ac mewn amser real. Mewn sesiwn 25 munud ar gyfer grŵp o wyth i ddeg o blant, bydd pob plentyn yn chwarae'r gêm a ddewisir am ddau funud.