Ewch i’r prif gynnwys

Ap Restrain

Mae restrain yn ap sydd wedi'i ddylunio gan ein gwyddonwyr a allai helpu pobl i golli pwysau a bwyta'n fwy iach. Terfynodd y treial ym mis Mawrth 2023 a bydd canfyddiadau'n cael eu lledaenu maes o law.

Restrain logo

Mae ap Restrain yn rhan o brosiect ymchwil ehangach i brofi a all gwahanol fathau o ymarferion 'hyfforddiant i’r ymennydd' helpu pobl i golli pwysau.

Mae'r tasgau hyfforddi wedi'u profi eisoes mewn grwpiau bach o bobl, ond erbyn hyn rydym am ganfod a ydynt yn gweithio ar raddfa fawr gyda phobl sydd dros bwysau neu'n ordew.

Os yw'r tasgau'n gweithio, rydym am cael gwybod pa fath o hyfforddiant sy'n gweithio orau a phwy sy'n debygol o elwa fwyaf.

Y prosiect yw'r mwyaf o'i fath ac rydym am i chi fod yn rhan ohono.

Yr hyn mae’n ei olygu

Mae'r ap yn golygu cwblhau gwahanol dasgau bob dydd.

Mae angen i chi hefyd gael eich pwyso unwaith yr wythnos er mwyn i ni allu olrhain eich cynnydd.

Gallwch gymryd rhan gyn gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch - ond gorau po fwyaf.

Sgrinlun ap o'r archfarchnad rhithwir
Yn yr archfarchnad rithwir, gallwch ddewis yr holl fwydydd rydych eisiau defnyddio yn eich hyfforddiant – wedyn mae’r hyfforddiant wedi’i bersonoli i chi.
Sgrîn ap Restrain yn dangos sgôr o 150 yn erbyn 200.
Yn gêm hyfforddi, byddwch yn ennill pwyntiau am ddewis rhai bwydydd ac osgoi eraill.

Ariannu a phartneriaid

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd ac mae'n brosiect cydweithredol rhwng ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Sba Caerfaddon a datblygwyr yr ap, Connect Internet Solutions.

A list of logos of funders for the research project

Hysbysiad preifatrwydd

Drwy fynegi diddordeb ym mhrosiect Restrain, rydych chi'n rhoi caniatâd i’r ymchwilwyr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect gysylltu â chi.

Bydd yr holl wybodaeth bersonol wrth gofrestru’n cael ei dileu ar ôl i’r ap gael ei lansio. Sylwch fod polisïau cydsynio a data ar wahân ar waith ar gyfer yr ap ei hun.

Ni fyddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth at unrhyw ddiben arall ac ni fyddwn yn rhannu'r wybodaeth hon ag unrhyw un y tu allan i brosiect Restrain.

Os, ar unrhyw adeg, nad ydych am i ni gysylltu â chi am brosiect Restrain, anfonwch ebost atom.

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni nodi’r sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu eich data personol.

Pan fyddwch yn darparu eich data personol ar gyfer yr ymchwil hwn byddwn yn ei brosesu ar y sail bod gwneud hynny yn angenrheidiol ar gyfer ein tasg gyhoeddus at ddibenion ymchwil hanesyddol a gwyddonol yn unol â’r camau diogelu angenrheidiol, a’i fod er budd y cyhoedd.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad ymchwil cyhoeddus a sefydlwyd drwy siarter brenhinol i ddatblygu gwybodaeth ac addysg drwy ei weithgarwch addysgu ac ymchwil. Darllenwch ein siarter.

Mae’r Brifysgol yn rheolwr data ac mae wedi ymrwymo i barchu a diogelu eich data personol yn unol â’ch disgwyliadau a deddfwriaeth diogelu data. Darllenwich ein polisi diogelu data.

Cysylltwch

Restrain