Ymchwil
Mae ein hymchwil yn ennill grantiau a buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd. O ganlyniad i'r buddsoddiadau hyn, mae ein tîm wedi tyfu'n gyflym a bellach mae gennym 45 o aelodau staff.
![Celloedd canser wedi'u staenio'n flodeuol.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/241289/10a-002.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Canolbwynt ymchwil
Mae ein harbenigwyr yn cael cydnabyddiaeth am ymgymryd â gwaith o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar rai o’r ffurfiau mwyaf ymosodol o ganser gan gynnwys canser gastroberfeddol, canser y pancreas, canser yr ysgyfaint a chanserau endocrinaidd. Mae'r rhain ymhlith y meysydd sy'n cael eu blaenoriaethu mewn ymchwil gofal iechyd a chanser yn y DU a Tsieina fel ei gilydd. Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio'n arbennig ar salwch metastatig.
Themâu ymchwil
Mae ein themâu ymchwil presennol yn cynnwys:
- angiogenesis a ysgogir gan diwmor, angiogenesis lymff ac ymyrraeth
- targedu moleciwlau sy’n ymledu ac yn ysgogi metastasis
- sgrinio moleciwlau a phroffilio genynnau tiwmor sy’n gysylltiedig â metastasis
- datblygu gweithredwyr gwrth-angiogenesis a gwrth-metastasis newydd.
Allbynnau ymchwil
Mae ein cysylltiadau gyda Tsieina wedi arwain at ganlyniadau boddhaus gan gynnwys:
- cyhoeddiadau ymchwil ar y cyd
- diagnosis newydd
- meddyginiaethau newydd
- patentau
- cyfnewid gwyddonwyr
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=100&h=100&auto=compress&crop=faces&fit=crop)
Mae'n gyffrous iawn i weld sut mae gwyddonwyr yn y DU yn meddwl am ymchwil canser a'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir. I fi, roedd CCMRC yn amgylchedd ymchwil rhagorol gydag awyrgylch gyfeillgar ac academaidd hefyd.
Oes gennych chi asiant neu ddyfais sydd angen eu profi? Mae gennym y cyfleusterau a'r arbenigedd.