Prosiectau
Mae ein harbenigedd, ein cyfleusterau helaeth a'n seilwaith ymchwil yn caniatáu i ni fynd i'r afael yn llwyddiannus â'r heriau mwyaf.
Mae'r canlynol ymhlith ymchwil a phrosiectau Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI):
Catalysis aur
Rydyn ni’n arwain y ffordd yn y defnydd o aur mewn catalysis heterogenaidd, ac yn ymchwilio i sut y gellir rheoli’r synergedd rhwng aur a metelau gwerthfawr a throsiannol eraill. Yr Athro Graham Hutchings, Gyn-gyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd, yw un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes catalysis heterogenaidd, yn torri tir newydd drwy ddefnyddio nano-ronynnau aur mewn ffyrdd arloesol.
Ocsideiddio dethol
Mae ocsideiddio dethol, o ran alcanau ac alcenau er enghraifft, yn her ers tro mewn catalysis oherwydd trosi olynol cyflym y cynnyrch targed. Mae ein gwaith yn edrych ar ddulliau newydd a gwreiddiol i ddatrys y broblem hon.
Mae dulliau o'r fath yn cynnwys cynhyrchu a defnyddio hydrogen perocsid (H2O2) er mwyn defnyddio cadwyni byr o alcanau, cyfansoddion ocsigenedig, aromatigau, deunydd bioadnewyddadwy a thrin dŵr gwastraff ("dŵr llwyd").
Darllenwch am y ffyrdd rydym ni'n lleihau defnydd o ddŵr (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Deunydd bioadnewyddadwy
Un o'r prif heriau i ddatblygiad y diwydiant cemegau bioadnewyddadwy yw adnabod a ffocws y cyfryngwyr allweddol a'r cemegau platfform. Gall biodanwydd fod yn niwtral o ran nwyon tŷ gwydr os caiff dulliau effeithlon eu datblygu i'w cynhyrchu.
Mae'r burfa betroliwm sydd ar waith heddiw yn elwa o flynyddoedd o ymchwil ym maes optimeiddio er mwyn cynhyrchu cemegau sy'n rhoi gwerth ychwanegol. Mae'r modd y caiff prosesau bioburo eu datblygu a'u gweithredu yn parhau i gael eu harchwilio. Er nad oes consensws hyd yma ynglŷn â'r rhyng-gyflyrau allweddol i'w defnyddio wrth bioburo, nid oes amheuaeth y bydd gan yr adweithiau mwyaf cyffredin fel ocsideiddio, hydrogenu a dadhydradu rôl yn eu datblygiad.
Darllenwch sut rydym ni'n trosi gwastraff yn danwydd (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Yn rhan o brosiect NOVACAM, rydym yn datblygu'r adweithiau catalytig sylfaenol sydd eu hangen i brosesu biomas yn gemegau ac yn danwyddau defnyddiol. Mae prosesu biomas, fel seliwlos, yn ymwneud â chemeg gwahanol iawn i'r un a ddefnyddir gyda ffynonellau carbon traddodiadol sy'n seiliedig ar ffosil; yn benodol, rhaid lleihau'r cynnwys ocsigen a chadw gafael ar y carbon a'r hydrogen sydd ynddo er mwyn uwchraddio'r adnoddau hyn.
Dysgwch mwy am y prosiect NOVACAM (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Llwybrau Catalytig at Gyfryngwyr ar gyfer Prosesau Cynaliadwy (CRISP)
Prosiect a gyllidir gan yr EPSRC yw CRISP ar y cyd â phrifysgolion Lerpwl, Aston a Choleg Imperial Llundain, sy'n ceisio canfod a datblygu catalyddion heterogenaidd newydd ar gyfer trosi deilliadau seliwlos yn gemegau platfform a nwydd gwerth uchel. Ymhlith y targedau penodol mae cynhyrchu cyfryngwyr yn gynaliadwy ar gyfer cynhyrchu polyamidau ac acryladau a allai gymryd lle porthiant cemegol.
Ein nod ym mhrosiect CRISP yw cynhyrchu asidau bio-adipic mewn ffyrdd mwy hyfyw drwy ddefnyddio catalyddion heterogenaidd newydd, cynhyrchu ffrydiau cemegol pur gyda phrosesau gwell, effeithlonrwydd ynni, defnyddio carbon a chael llai o effaith ar yr amgylchedd. Byddwn yn edrych ar glwcos - fel deunydd dechreuol ar gyfer cynhyrchu asid apidic drwy ddefnyddio catalyddion heterogenaidd.
Ffotocatalysis
Gellir gweld ein rôl mewn gwaith ffotocatalysis arloesol o'r fath drwy waith cydweithredol ar brosiect FP7 yr Undeb Ewropeaidd ar ffotocatalysis.
Cafodd prosiect enghraifft ei arwain gan yr Athro Phil Davies, sy'n aelod o staff, a wnaeth gynnull tîm trawsddisgyblaethol o wyddonwyr a pheirianwyr sy'n dod o dimau ym Mhrydain, yr Almaen, Sbaen, Twrci, Fietnam, Malaysia a Gwlad Thai. Cafwyd tua €3.9 miliwn o gyllid gan yr UE i ddatblygu dull pŵer solar cost effeithiol a chynaliadwy fel rhan o'r prosiect. Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mwyneiddio'r llygryddion organig ystyfnig nad yw dulliau biolegol yn gallu eu tynnu o ddŵr gwastraff a gynhyrchir yn y diwydiannau amaethyddol.
Darllenwch fwy am y prosiect PCARDES. (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).
Gyda’ch help chi gallwn ddarparu cymorth hanfodol ar gyfer ymchwil arloesol a gweld therapïau newydd yn cael eu cludo o fainc y labordy at ymyl y gwely yn yr ysbyty.