Cefnogwch ni
Mae nifer y bobl sy'n byw gyda chanser ar gynnydd drwy'r amser, gyda thros 900 o bobl yn cael diagnosis o'r clefyd yn y Deyrnas Unedig bob dydd. Y newyddion cadarnhaol yw ein bod yn gallu cynnig diagnosis i gleifion yn gynt ac yn gynt, a'n bod yn datblygu triniaethau mwy effeithiol.
Mae'n hymchwil ni'n gweddnewid therapïau canser ond mae yna lawer mwy i'w wneud o hyd.
Fel elusen rydyn ni'n dibynnu ar gymorth gwirfoddol i barhau â'n gwaith. Er enghraifft, dim ond £16 yr awr yw cost ariannu ymchwil canser hollbwysig gan un o'n hymchwilwyr ôl-raddedig.
Mae 100% o'ch rhodd yn mynd yn uniongyrchol i ariannu ymchwil yn Y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd.
Os hoffech chi drafod cyflwyno rhodd cysylltwch â'n Tîm Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr ar 02920 876473 neu anfonwch at donate@caerdydd.ac.uk
Mae 100% o'r arian sy'n cael ei gasglu ar ein rhan yn cael ei fuddsoddi mewn ymchwil yn ein labordy.