Ymchwil
Y prawf eithaf ar ein gallu i drin canser yw pa mor hir y gall cleifion fyw ar ôl cael diagnosis, a pha mor dda yw eu bywydau.
Dros y degawdau diwethaf, mae gwyddor feddygol wedi gwneud cynnydd cyson o ran hyd oes ac ansawdd bywyd y sawl sy'n dioddef canser. Ond, mae'r cyfraddau goroesi cyffredinol yn dal yn isel mewn rhai mathau o ganser, ac yn rhy aml o lawer, bydd tiwmor yn aildyfu ar ôl y driniaeth gychwynnol.
Mae targedu bôn-gelloedd canser yn cynnig posibilrwydd o drawsnewid y gyfradd hon o gynnydd.
Gall bôn-gelloedd canser gyfrannu at dwf tiwmor mewn o leiaf tair ffordd wahanol. Mewn rhai mathau o ganser, yn arbennig canserau’r gwaed, gallant gynhyrchu’r holl fathau eraill o gelloedd y ceir hyd iddynt yn y tiwmor. Felly, dylai fod yn bosibl trin canser yn fwy effeithiol drwy ddileu’r bôn-gelloedd canser yn ddetholus oddi mewn i diwmor, yn hytrach nag ymosod ar bob un o gelloedd y tiwmor, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Mae gan fôn-gelloedd canser hefyd y gallu i beri bod canser yn ymledu o fewn y corff, a nhw hefyd sy’n gyfrifol am aildyfiant canser ar ôl triniaeth.
Mae ein gwybodaeth am fecanweithiau bôn-gelloedd canser a chanser yn cynyddu, ond mae angen i ni ddysgu llawer mwy am fôn-gelloedd canser. Gwyddom y gall fod tebygrwydd rhwng bôn-gelloedd canser a'r bôn-gelloedd sy'n ffurfio’r embryo cynnar ac a ddarganfuwyd gan Lywydd Prifysgol Caerdydd, yr Athro Syr Martin Evans. Ceir elfennau tebyg hefyd rhwng bôn-gelloedd canser a’r bôn-gelloedd yng nghorff oedolyn sy’n cadw’r perfedd, y croen a’r gwaed yn iach, er enghraifft. Ond ceir gwahaniaethau hefyd.
Strategaeth y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd yw troi ein gwaith ymchwil arloesol yn therapïau newydd. Mae gennym 13 o grwpiau ymchwil sy’n cynnwys chwaraewyr rhyngwladol allweddol ym maes gwyddoniaeth sylfaenol a throsiadol modelau canser lluosog, rydym yn ymchwilio i fôn-gelloedd canser yn y mathau mwyaf cyffredin o ganser, gan gynnwys y gwaed, y croen, y colon, y fron, yr ysgyfaint, y prostad a'r pancreas.