Dr Richard Clarkson
"Dyna pam y credaf eu bod nhw'n ddiddorol iawn, oherwydd mae [bôn-gelloedd canser], drwy ddiffiniad, yn rywbeth sydd angen i chi ddileu o'r tiwmor er mwyn cael iachâd llwyr o ganser. Ond mae'n anodd dod o hyd iddynt."
Pwy ydych chi?
Rwy'n uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Biowyddorau, ac wedi bod yng Nghaerdydd am wyth mlynedd, bob amser yn y maes chwarren famol (mammary gland). Cefais waith gydag ECSCRI pan agorodd y sefydliad yn mis Awst y llynedd . Roedd fy ngwaith mewn ymchwil canser trosiadol. Mae hynny'n golygu mod i'n cymryd beth dwi wedi ei ddarganfod am fioleg chwarren famol arferol yn fy ymchwil blaenorol a'i drosi i waith canser.
Beth yn eich barn chi yw'r celloedd yma?
Mae'n gell yn ei hanfod sydd â'r gallu i ffurfio tiwmor newydd. Fodd bynnag, byddwn yn ei ddiffinio fel nodwedd, neu gyfres o nodweddion, yn hytrach nag endid cellog penodol. Ni allwch ddewis cell a dweud, 'Dyna'r gell canser gwreiddiol'. Gallai fod yn meddu ar y nodweddion yma yn nawr ond yfory gallai beidio. Mae'n ddigwyddiad eitha hyblyg neu 'blastig.'
Mae'r celloedd yma drwy ddiffiniad, yn bethau sydd angen i ni ddileu o'r tiwmor i gael iachâd llwyr o ganser. Ond mae'n anodd iawn dod o hyd iddynt. Mae'n dipyn o dric i'w hadnabod yn y lle cyntaf ac yn y pen draw i'w targedu gyda therapi.
Dywedwch mwy am eich ymchwil cyfredol yma yn y sefydliad.
Des i yma o Gaergrawnt gyda nifer o enynnau roeddwn i'n meddwl oedd yn gyfrifol am reoli neu cholli celloedd y chwarren famol.
Edrychon ni ar y genynnau hyn gyda ffocws ar ganser pan ddes i i Gaerdydd. Daethon ni i'r casgliad fod unrhyw genynnau sydd â rôl mewn rhoi gwybod i gell os ddylai fodoli neu beidio, yn mynd i gael effaith ar ganser y fron. Oherwydd dyna'r cam cyntaf, fe gredaf, mewn datblygiad canser, sef cell sy'n mynd yn anghywir ac yn parhau mewn grym pan fydd angen iddo gael ei ddileu.
Felly rydym wedi paru'r genynnau i ddau sy'n bwysig iawn yn y bôn-gelloedd canser: Bcl3 a c-FFLIP. Rydyn ni'n credu os gallwn feddu Bc13 bod modd i ni atal y bôn-gelloedd canser rhag lledu dros y corff sef proses o'r enw metatasis. Os gallwn leddfu c-FLIP, gallwn sensiteiddio'r bôn-gelloedd canser ar gyfer therapïau unigryw fydd yn eu gadael i gael eu lladd.
Sut ydych chi'n gweld eich gwaith ymchwil yn cael ei gymhwyso a pha ddylanwad gallai gael ar y darlun ehangach o therapi canser?
Mae fy labordy yn ECSCRI gyda'r mwyaf cymhwysol o ran therapïau clinigol. Ein ffocws pennaf yw gweld os ydy'r asiantau newydd rydym wedi eu darganfod yn barod yn wirioneddol ddefnyddiol ar gyfer targedu y ddau enyn ac felly'r bôn-gelloedd canser.
Rydym yn gwneud hyn ar hyn o bryd drwy ddefnyddio tiwmorau cleifion o glinigau yng Nghaerdydd 'ex vivo', sy'n golygu y tu allan i'r corff, ac yn edrych arnynt yn fyw yn y labordy i weld os gallwn ladd y celloedd tiwmor.
Os yw hynny'n llwyddiannus, ein cam nesaf yw symud y cyffuriau tuag at y cleifion. Gobeithio gallwn wneud hynny mewn ychydig o flynyddoedd.
Beth sydd ar y gweill gyda chi heddiw?
Sut mae gweithio o fewn y sefydliad yn eich helpu chi fel ymchwilydd?
Y cydweithrediadau a'r cyfleusterau labordy yn bendant. Rwy rhyw bum cam i ffwrdd o'r bobl sy'n deall fy nhestun a phum cam i ffwrdd o'r adnoddau dwi eu hangen ar gyfer fy swydd.
(Cyfweliad gan: Sophie Hopkins, myfyriwr israddedig yn y Biowyddorau)