Dr Beatriz Salvador
Pwy ydych chi?
Rwy'n Gymrawd Ymchwil yn Y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI), dan ofal labordy Catherine Hogan, yn ceisio deall sut mae canser y pancreas yn cychwyn. Rwy'n wreiddiol o Madrid (Sbaen), lle astudiais Bioleg yn Universidad de Alcalá a gwneud fy MSc mewn Oncoleg Glinigol yn Universidad San Pablo CEU. Gwnes i fy PhD yn y CNIO (Canolfan Genedlaethol Ymchwil Oncoleg Sbaen) ym maes cyfuniadau trin canser pancreatig a mecanwaith gweithredu. Yna symudais i Brifysgol Caerdydd i gynnal fy astudiaethau ôl-ddoethurol ym maes rhyngweithio celloedd arferol i gelloedd wedi’u mwtadu yng nghyfnod cychwynnol canser y pancreas. Yn 2022 dyfarnwyd Cymrodoriaeth y UK Pancreatic Cancer Foundation i mi astudio bôn-gelloedd mewn briwiau canser y pancreas cyn eu bod yn ganseraidd.
Beth ydych chi'n meddwl yw bôn-gelloedd canser a pham ydych chi'n meddwl eu bod mor ddiddorol?
Rwy'n gweithio ym maes cyfnod cychwynnol canser, y digwyddiadau cyntaf sy'n arwain at diwmorau. Bôn-gelloedd canser yw'r is-set o gelloedd mewn briwiau cyn eu bod yn ganseraidd a all ddatblygu i fod yn diwmorau. Gall nodi pa rai yw'r celloedd hyn ac astudio eu nodweddion ein helpu i ddatblygu offer i ganfod celloedd canser posibl hyd yn oed cyn iddo ddatblygu; a nodi triniaethau posibl i dargedu'r celloedd hyn ac oedi neu atal datblygiad canser.
A allwch chi sôn ychydig am eich ymchwil ar hyn o bryd?
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar nodi'r bôn-gelloedd canser yng ngwahanol gyfnodau briwiau canser y pancreas cyn eu bod yn ganseraidd. Ar ôl eu nodi, rwy'n eu hastudio'n fanwl i nodi biofarcwyr posibl ar gyfer canfod canser, a gwendidau i'w targedu ac atal datblygiad canser.
Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn deall sut mae celloedd normal a chelloedd wedi’u mwtadu yn rhyngweithio yn ystod datblygiad canser y pancreas a sut y gellir targedu'r rhyngweithio hwn at gychwyn canser anodd.
Sut ydych chi'n gweld eich ymchwil yn cael ei gymhwyso i'r darlun ehangach?
Mae canser y pancreas yn glefyd ymosodol iawn gyda phrognosis gwael iawn. Mae hyn yn bennaf oherwydd diagnosis hwyr y clefyd. Does dim modd torri allan dros 80% o diwmorau cleifion drwy lawfeddygaeth, a dim ond gydag asiantau chemotherapiwtig y mae modd eu trin.
Gyda fy ymchwil, fy nod yw datblygu offer canfod cynnar a fydd yn caniatáu nodi cleifion sydd â risg uchel o ddatblygu canser y pancreas. Hefyd, rwyf am ddylunio triniaethau a allai oedi neu hyd yn oed atal datblygiad canser y pancreas mewn cleifion risg uchel.
Rhowch syniad i ni o’ch swydd o ddydd i ddydd
Y dyddiau hyn rwy'n ceisio rhannu fy amser rhwng cwblhau fy ngwaith ôl-ddoethurol yn labordy Catherine Hoan, gwneud rhywfaint o waith labordy ar gyfer fy mhrosiect cymrodoriaeth a gwneud ceisiadau am gyllid.
Heddiw, yn benodol, bydda i’n treulio'r bore yn darllen llyfryddiaeth i ysgrifennu'r drafodaeth ar fy nghyhoeddiad prosiect ôl-ddoethurol. Yn y prynhawn bydda i’n gwneud arbrofion yn y labordy
Sut ydych chi ar eich ennill wrth weithio’n ymchwilydd yn y Sefydliad?
Mae ECSCRI yn lle gwych i wneud fy ymchwil. Yma rwy'n cael fy amgylchynu gan ymchwilwyr sydd nid yn unig yn arbenigwyr ym maes canser ond yn benodol ym maes bôn-gelloedd canser. Mae ECSCRI yn gweithio’n gymuned fach braf iawn lle mae pawb yn helpu ei gilydd. Mae cydweithio'n hawdd iawn ac mae pawb yn barod i helpu ei gilydd. A minnau’n ymchwilydd ar ddechrau fy ngyrfa rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi yn fawr gan y prif ymchwilwyr a'r gweithgorau yn y sefydliad, megis y Pwyllgor Grant. Fedra i ddim meddwl am le gwell i ddatblygu fy mhrosiect.