Ewch i’r prif gynnwys

Resilient Remanufacturing Networks (ReRuN) - Forecasting, Informatics and Holons

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Ail-ddosbarthu Gweithgynhyrchu ar gyfer Dinasoedd Cynaliadwy a Gwydn

Goblygiadau technolegau gweithgynhyrchu newydd ar gyfer gweithgynhyrchu ar raddfa fach wasgaredig ym Mryste.

Mae’r Athro Mohamed Naim, Dirprwy Ddeon ac Athro mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, wedi cael grant gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) i wneud ymchwil yn rhan o rwydwaith ar weithgynhyrchu a ail-ddosberthir.


Prifysgol Bryste sy’n arwain yr ymchwil, gyda thimau ym Mhrifysgolion Caerfaddon, Caerdydd, Caerwysg a Phrifysgol Gorllewin Lloegr. Yn ogystal â’r Athro Naim, mae tîm Caerdydd yn cynnwys:

  • Yr Athro Gill Bristow o'r Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth
  • Yr Athro Rossi Setchi o Ysgol Peirianneg Caerdydd
  • Dr Anthony Soroka o Ysgol Busnes Caerdydd
  • Dr Andrew Potter o Ysgol Busnes Caerdydd
  • Dr Laura Purvis o Ysgol Busnes Caerdydd
  • Dr Yingli Wang o Ysgol Busnes Caerdydd
  • Dr Brian Webb o'r Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth
  • Dr Ying Liu o’r Ysgol Peirianneg

Mae prosesau gweithgynhyrchu hynod addasadwy sy’n gallu gweithredu ar raddfeydd bach yn cynnig y posibilrwydd o ddealltwriaeth newydd o ble a sut dylid cynnal gwaith dylunio, gweithgynhyrchu a gwasanaethau er mwyn cael y cyfuniad priodol o allu a chyflogaeth gan sicrhau cyn lleied o gostau amgylcheddol â phosibl a sicrhau gwydnwch y ddarpariaeth.
Mae rhwydwaith RDM|RSC yn un o chwe rhwydwaith a ariennir gan yr EPSRC, sy’n gwneud ymchwil am weithgynhyrchu ail-ddosbarthedig, sy’n cynnwys ymchwilwyr a chydweithwyr o ledled de-orllewin y DU a thu hwnt. Bydd y rhwydwaith yn dod ag arbenigwyr ynghyd o feysydd fel gweithgynhyrchu, dylunio, logisteg, rheoli gweithrediadau, isadeiledd, gwydnwch, cynaliadwyedd, systemau, y gwyddorau daearyddol, astudiaethau polisi ac economeg.

Industrial partners

  • British Telecommunications Plc
  • Brother International Europe Ltd
  • MCT Reman Ltd
  • Panalpina World Transport Ltd
  • Qioptic Ltd.

Policy advisors

  • Waste & Resources Action Programme (WRAP)
  • Conseil Européen de Remanufacture (CER).

For further information about the project, please contact Borja Ponte Blanco.

Funder

EPSRC logo