Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch (ASTUTE 2020+)
Mae ASTUTE 2020+ wedi’i ddylunio i ysgogi twf yng ngorllewin Cymru a’r cymoedd gan ddefnyddio technolegau peiriannol uwch ar gyfer heriau gweithgynhyrchu a sbarduno datblygiadau ac arloesedd blaengar mewn ymchwil.
Prosiect cefnogi busnesau sy’n werth £14.7 miliwn yw ASTUTE 2020+ (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch). Prifysgol Abertawe sy’n arwain y prosiect, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’n cefnogi ymchwil ddiwydiannol gymhwysol, datblygiadau ac arloesedd academyddion o’r radd flaenaf a thîm o arbenigwyr technegol a rheolwyr prosiect hynod gymwys.
Gan gydweithio ers 2010 ar brosiect ASTUTE (2010-2015) a chanolbwyntio ar dechnolegau sy’n gysylltiedig â gweithgynhyrchu, mae’r pedwar partner yn cynnig swyddogion prosiect hynod gymwys ac arbenigedd academaidd o fri. Maent wedi sbarduno twf cynaliadwy ac wedi trawsnewid diwydiant gweithgynhyrchu gorllewin Cymru a’r cymoedd gan hwyluso mabwysiadu technolegau uwch a chynyddu cystadleurwydd a gwytnwch ar gyfer y dyfodol.
Elfennau Prifysgol Caerdydd
Dechreuodd y fenter bum mlynedd o hyd yn ffurfiol ym mis Gorffennaf 2015. Ei bwriad yw galluogi diwydiant gweithgynhyrchu (gyda sylw arbennig ar fusnesau bach a chanolig) gorllewin Cymru a’r cymoedd i dyfu drwy fabwysiadu mwy o dechnolegau uwch a phrosesau busnes gwell. Ar yr un pryd, bydd yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol yn y tymor hir.
Arweinir elfennau Prifysgol Caerdydd gan yr Athro Rossi Setchi, Pennaeth y tîm Mecaneg, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, ynghyd â’r Athro Mohamed Naim, Cyfarwyddwr CAMSAC o Ysgol Busnes Caerdydd a’r Athro Ian Weeks, Pennaeth Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Mae ASTUTE 2020+ yn gweithredu drwy gyfres o brosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd â phartneriaid diwydiannol. Ei nod yw cynorthwyo’r cwmnïau hyn i fagu cynaliadwyedd a chystadleurwydd hirdymor. Gwnaiff hyn drwy welliannau sy’n cynnwys:
- prosesau busnes a thechnegol gwell
- ymchwil a datblygu cyflym
- gwella rhagolygon twf
- datblygu cynhyrchion newydd.
Nodweddion prosiect
Mae'r prosiectau:
- yn cael eu harwain gan y diwydiant
- angen Her Ymchwil yn ein tri maes allweddol sef Technoleg Deunyddiau Uwch, Modelu Peirianneg Gyfrifiadurol neu Beirianneg Systemau Gweithgynhyrchu.
- yn cynnwys cydweithredu, er mwyn i’r cwmnïau a'r Prifysgolion rannu'r mewnbynnau, a’r allbynnau, ac mae risgiau
- yn dod â budd economaidd i Orllewin Cymru a'r Cymoedd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Andrew Hopkins, Rheolwr Technoleg Strategol ASTUTE 2020+.
Ariannwr
Mae'r rhaglen pum mlynedd (2015-2020) wedi'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a'r Sefydliadau Addysg Uwch sy'n cymryd rhan.