Ewch i’r prif gynnwys

Ortho Clinical Diagnostics

Symudodd Ortho Clinical Diagnostics (OCD) o ganol Caerdydd i ffatri a adeiladwyd at y diben ym Mhencoed yn Ardal Cydgyfeiredd Cymru, sy'n cynnwys gorllewin Cymru a'r Cymoedd, ym mis Hydref 2010.

OCD oedd un o'r cwmnïau cyntaf i ASTUTE Caerdydd gydweithio â nhw. Datblygwyd astudiaeth gwmpasu gydweithredol yn y lle cyntaf, a chynhaliwyd gwerthusiad o hyfywedd technegol proses arfaethedig ar gyfer addasu priodoleddau arwyneb eu ffynhonnau imiwnobrawf cyn cotio.

Ar ôl dangos yn llwyddiannus y gallai'r dechnoleg gynnal y gwaith addasu yn ôl y gofyn, cynhaliwyd astudiaeth fwy hirdymor ar y cyd i ddangos y gallai fod yn effeithiol ar gyfer ystod gyfan Ortho Clinical Diagnostics o dan yr ystod gyfan o amodau prosesu disgwyliedig.

Ortho technical
Pre-treatment of plastic mouldings used for medical tests.

Heriau

Mae'r ddau brosiect fel ei gilydd wedi cyflawni'r canlyniadau disgwyliedig, ond natur y diwydiant dyfeisiau meddygol yw bod yna gyfnodau arweiniol hir er mwyn cyflwyno a dilysu unrhyw brosiect neu broses newydd, ac mae'r broses werthuso hon yn mynd rhagddi ar hyn o bryd ar gyfer gwella'r broses gynhyrchu yn ogystal â'r cyflenwyr ar y rhestr fer.

Effaith

Mae Ortho Clinical Diagnostics wedi datgan yn agored bod eu cysylltiad ag ASTUTE a mentrau eraill sy’n ymwneud â’r byd academaidd a Llywodraeth Cymru wedi cael effaith glir ar eu gallu i sicrhau buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau, staff a phrosesau. Er enghraifft, yn ystod y cyfnod hwn mae swyddi medrus eraill wedi’u creu a phrentisiaethau wedi dechrau am y tro cyntaf.

Mae OCD yn barod am fuddsoddiad pellach mewn adnoddau cynhyrchu a chymorth ar gyfer cynhyrchion er mwyn cyflwyno cyfres newydd o gynhyrchion yn 2014. Bydd hyn yn creu 24 o swyddi newydd a bydd angen gweithwyr hynod fedrus ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt.

Nid oedd y cymorth technegol micro/nano a gafwyd (gan dîm ASTUTE) ar gael yn fewnol yng nghyfleuster OCD yn ne Cymru. Ar adegau, gall canoli galluoedd hynod dechnegol mewn strwythur corfforaethol effeithio’n anfwriadol ar ystwythder sefydliad a’i allu i ddatblygu. Mae’r arbenigedd technegol sydd ar gael drwy ASTUTE yn golygu bod modd gwneud penderfyniadau lleol ynghylch neilltuo adnoddau ar gyfer cyfleoedd gweithgynhyrchu a allai drawsnewid y diwydiant.

Nid oedd y cymorth technegol micro/nano a gafwyd (gan dîm ASTUTE) ar gael yn fewnol yng nghyfleuster Ortho Clinical Diagnostics yn ne Cymru. Ar adegau, gall canoli galluoedd hynod dechnegol mewn strwythur corfforaethol effeithio’n anfwriadol ar ystwythder sefydliad a’i allu i ddatblygu. Mae’r arbenigedd technegol sydd ar gael drwy ASTUTE yn golygu bod modd gwneud penderfyniadau lleol ynghylch neilltuo adnoddau ar gyfer cyfleoedd gweithgynhyrchu a allai drawsnewid y diwydiant.

Kevin Doran, Rheolwr Peirianneg
ASTUTE and ERDF combined logo strip