Ewch i’r prif gynnwys

Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch (ASTUTE)

Tîm ASTUTE Caerdydd
Aelodau ASTUTE Caerdydd

Cafodd prosiect pum mlynedd (2010-2015) Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch (ASTUTE) a ariennir gan Ewrop, ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae'r prosiect bellach wedi'i ddisodli gan ASTUTE 2020.

Mae ASTUTE wedi helpu i ysgogi syniadau yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru trwy ddarparu adnoddau, cyfleusterau, cyngor ac arweiniad sy'n manteisio ar y cyfoeth o ymchwil o'r radd flaenaf ym mhrifysgolion Cymru mewn cydweithrediad ymchwil agos â diwydiant.

Cefnogodd y prosiect fwy na 250 o fentrau yng Nghymru yn y Cymoedd ac yng ngorllewin Cymru, gan eu cefnogi i fod yn gynaliadwy ac yn gystadleuol yn yr hirdymor. Y gwelliannau mwyaf amlwg a brofwyd gan gwmnïau oedd prosesau gwell, ymchwil a datblygu cyflymach, rhagolygon twf gwell a datblygiadau cynnyrch newydd.

Gwerthuso’r effaith

Mae'r gwerthusiad terfynol o ASTUTE, sy'n cynnwys canfyddiadau adolygiad annibynnol allanol, wedi dod i'r casgliad bod gwaith ASTUTE, gan ddefnyddio amcangyfrifon ceidwadol, wedi creu effaith economaidd o dros £200m yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae hyn yn dangos eu bod wedi cynhyrchu elw rhagorol o dros £8 o effaith economaidd am bob £1 a fuddsoddwyd.

Mae llwyddiannau allweddol eraill ASTUTE yn cynnwys 141 o brosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol a chynorthwyo 294 o fentrau a arweiniodd at gynnyrch e.e

  • mae’r ceisiadau am gyllid a gyflwynwyd o ganlyniad i ymyriadau ASTUTE yn dod i gyfanswm o £49,882,644
  • un prosiect a allai arbed dros 10,000 tunnell o CO2 y flwyddyn yn y DU yn unig.
  • £6,636,800 o fuddsoddiad wedi’u ysgogi
  • 158 o swyddi newydd wedi’u creu
  • 11 o fentrau wedi'u creu
  • 42 o gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau wedi'u cofrestru
  • 342 o gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau wedi’u lansio

Diolch o galon i bawb sydd wedi ar flaen y gad ym meysydd ymchwil, arloesedd a datblygu ac am ymgorffori technolegau a throsglwyddo gwybodaeth i fentrau bach a chanolig yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Yn benodol, diolch i’r sector diwydiant yng Nghymru am ymgysylltu â sefydliadau academaidd a dangos mai cydweithio a phartneriaeth agos yw hanfod unrhyw berthynas lwyddiannus. Diolch hefyd i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol am roi cyngor ac arweiniad gwerth chweil.

Ariannwr

ASTUTE and ERDF combined logo strip