Prosiectau
Mae ein prosiectau yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymchwil trawsddisgyblaethol o ansawdd uchel, a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth arloesol.
Mae ein portffolio cyfredol a diweddaraf o weithgareddau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth yn amrywio o ymchwil sylfaenol sy'n diffinio ac yn mesur hyblygrwydd ar gyfer logisteg clyfar, i raglen gydweithredol o ymchwil gymhwysol gyda chwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru (yn bennaf BBaCh) trwy weithrediad ASTUTE 2020, a phortffolio cynyddol o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth.
Rhaglen Cyflymu
Mae'r rhaglen Cyflymu bellach wedi dod i ben. Mae’r rhaglen Cyflymu wedi cael ei ddathlu yn eang yn enghraifft o arloesedd gyda phartneriaid GIG, diwydiant ac academaidd yn cymryd rhan ac mae cyflawniadau a llwyddiannau’r rhaglen wedi'u cydnabod yn eang hefyd.
Datblygu’r economi oedd prif sbardun y rhaglen, wedi’i ariannu gan EDRF, gan alluogi cwmnïau i ddatblygu eu cynnig ar gyfer y farchnad gofal iechyd a gweithio'n fwy effeithiol gyda'r GIG. Mae hyn wedi bod yn effeithiol iawn, gan arwain at brosiectau syn cefnogi ein hymateb i COVID a phrosiectau sy'n cefnogi meysydd strategol allweddol y GIG megis presgripsiynu cymdeithasol a chynnig gwasanaethau yn agosach at gartrefi cleifion ee optometreg a ffisiotherapi yn gweithredu’n gyflym.
O ganlyniad i’r rhaglen, mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu ffordd arloesol o weithio er mwyn iddynt gyflwyno'r rhaglen Cyflymu. Trwy ddefnyddio'r grant, roeddent yn gallu cynnig cymorth pwrpasol, agor cyfleoedd cydweithio i academyddion Caerdydd, ac wrth wneud hynny sefydlu perthnasoedd cryf rhwng 18 o ysgolion y Brifysgol.
Derbyniodd Prifysgol Caerdydd fwy na £3.4M mewn nwyddau cyfatebol (a oedd yn £800K yn fwy na'r targed). Mae hyn yn dangos yr awydd a'r angen i gefnogi mentrau i'w galluogi i gyflawni gwaith arloesol, a'r cyfleoedd y mae hyn yn eu cyflwyno i'r Brifysgol o ran ymgysylltu, cyfleoedd i staff datblygu eu sgiliau, ein cenhadaeth ddinesig, cyflwyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a chyhoeddiadau.
Gwelwyd canlyniadau ac effeithiau'r rhaglen Cyflymu trwy’r cyhoeddiadau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid/astudiaethau achos effaith sydd wedi’u cynnwys yn gyflwyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yr ysgolion isod:
- Optometreg a Gwyddorau’r Golwg
- Deintyddiaeth
- Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol
- Y Gwyddorau Gofal Iechyd
- Meddygaeth y Boblogaeth
- Uned Ymchwil Treialon Clinigol
Yn ogystal, dangosodd y rhaglen yr aliniad trawstoriadol â blaenoriaethau a strategaethau systematig, a oedd yn ein galluogi i ddangos llwyddiant ac effaith yn erbyn y canlynol:
- Codi’r Gwastad
- Strategaethau Iechyd a Gofal
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Llywodraeth Cymru, 2015b)
- Y Ffordd Ymlaen (2018-2023: ail-lunio COVID-19) ac Is-strategaethau, yn enwedig ein Cenhadaeth Ddinesig ac Ymchwil ac Arloesedd
Mae’r gwaith wedi llwyddo o ganlyniad i gydweithio’n effeithiol, ac mae’r cydweithio wedi’i ategu gan fedrau’r Tîm y Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) ac arbenigedd clinigol a masnachol partneriaid y prosiectau.
Trwy dderbyn peryglon a buddion ar y cyd, mae’r cyfle i lunio, mireinio a datblygu arferion arloesol wedi bod o fantais fawr i arferion iechyd a gofal, darparu gwasanaethau, addysg a lles cymdeithasol.
Cryfder y gwaith hwn yw nifer y prosesau cynaliadwy a’r arferion gorau sy’n gadael eu hôl ledled y wlad yn unol ag amcanion Cymru Well.
Bydd effaith y gwaith hwn yn parhau y tu hwnt i Raglen Cyflymu gan y bydd cyfleoedd i drosglwyddo a marchnata ein syniadau arloesol y tu allan i Gymru.
Er bod rhaglen Cyflymu wedi dod i ben, mae'r Ganolfan Arloesedd Clinigol yn dal i fod ar gael i helpu a rhoi cymorth i bawb. Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost atcolesb2@caerdydd.ac.uk
Cyflymu - Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CAC)
Portffolio Prosiectau
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Astudiaethau achos am raglen Cyflymu
Prosiectau wedi'u cwblhau
Ein gweithgareddau cydweithredol
Rydym yn hen law ar gydweithio'n llwyddiannus â chwmnïau drwy gynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth.