Shine Food Machinery Ltd.
Datblygu a gweithredu methodoleg integreiddio systemau ar gyfer gweithgynhyrchu hyblyg, ymatebol a gwydn mewn amgylchedd cynhyrchu pwrpasol a gosod safleoedd pellennig.
Enillodd archwilwyr CAMSAC Dr Daniel Eyers a Dr Anthony Soroka grant £140,000 yn sgîl cais llwyddiannus am Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).
Bydd y grant a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ac Innovate UK yn cefnogi prosiect dwy flynedd (2019-2021) gyda Shine Food Machinery Ltd., sy’n cyflenwi atebion masnachol o safon ar gyfer y gegin.
Trosolwg o’r prosiect
Mae Shine Food Machinery Ltd yn weithgynhyrchwr cegin masnachol sy’n dylunio, gwneud ac yn gosod cyfarpar cegin a chownteri gweini.
Dros y 40 mlynedd diwethaf, maent wedi diwallu anghenion set amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys
- Microsoft
- y Weinyddiaeth Amddiffyn
- Coca-Cola
- Selfridges
- Maes Awyr Bryste.
Mae pob cynnyrch wedi’i deilwra at gwsmeriaid unigol, ac mae angen ei gyflenwi’n gyflym heb darfu ar ansawdd y cynnyrch a gyflenwir, na’r gwasanaeth gosod. Mae angen systemau gweithgynhyrchu a busnes effeithiol sy’n gallu ymdopi â gofynion hynod gymhleth a chyfnewidiol ar gyfer y math hwn o waith, heb godi gorbenion sylweddol i’r rheolwyr.
Nod y prosiect
Nod y prosiect yw dadansoddi, dylunio a gweithredu ystod o brosesau a systemau hyblyg er mwyn gwella effeithiolrwydd gweithrediadau a chefnogi twf parhaol y busnes.