Ymchwil
Mae CAMSAC yn cymryd safbwynt cyfannol, amlddisgyblaethol tuag at systemau gweithgynhyrchu sy'n ystyried y gadwyn werth gweithgynhyrchu gyfan, gan gwmpasu’r cynnyrch cyflawn a chylch bywyd y broses.
Mae'r meysydd penodol o arbenigedd yn cynnwys:
- Technolegau gweithgynhyrchu uwch
- Systemau deallus sy'n seiliedig ar wybodaeth
- Logisteg
- Micro a nano-weithgynhyrchu
- Rheoli gweithrediadau
- Systemau deallus
- Cadwyni a rhwydweithiau cyflenwi
- Gweithgynhyrchu cynaliadwy
Defnyddir yr arbenigedd hwn ar draws ystod eang o is-sectorau gweithgynhyrchu gan gynnwys awyrofod, moduro, bwyd, gofal iechyd a diwydiannau gweithgynhyrchu gwerth uchel eraill.
Rydym hefyd yn ystyried bod llawer o dechnoleg a phrosesau adeiladu arloesol, yn enwedig rhai sy'n cynnwys defnyddio gweithgynhyrchu ffatri oddi ar y safle, o fewn ein cylch gwaith.
At hynny, mae ein diddordebau’n ymestyn i ddysgu traws-sector ac i ardaloedd ymchwil sy'n rhychwantu cadwyni cyflenwi estynedig a sectorau gwasanaeth y mae'r rhain yn sail iddynt, er enghraifft manwerthu a materion ynghylch datblygu’r gallu i gyflenwi gwasanaethau o fewn diwydiannau gweithgynhyrchu.
Mae ein prosiectau yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymchwil safonol trawsddisgyblaethol a gweithgareddau arloesol cyfnewid gwybodaeth.