Gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd
Ein gweledigaeth yw i Brifysgol Caerdydd gael ei chydnabod fel canolfan rhagoriaeth flaenllaw ar gyfer ymchwil ac ysgolheictod eang a thrawsddisgyblaethol mewn technolegau, prosesau a systemau gweithgynhyrchu uwch erbyn 2020.
Ein cenhadaeth
Hwyluso datblygiad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol drwy greu technolegau, prosesau a systemau gweithgynhyrchu newydd a gwell.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy hyrwyddo a chefnogi ymchwil drawsddisgyblaethol o safon a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth arloesol sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu uwch ar draws Prifysgol Caerdydd, a thrwy annog cydweithio â'r ymchwilwyr, diwydianwyr a sefydliadau rhanddeiliaid gweithgynhyrchu gorau ledled y byd.
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
Cynnig ffocws, fforwm a llais unedig ar gyfer y gymuned ymchwil gweithgynhyrchu drawsddisgyblaethol drwy Brifysgol Caerdydd i gyd, gan hyrwyddo ei gwaith ar y llwyfan byd-eang er mwyn cynyddu effaith ei llwyddiannau gymaint â phosibl a dangos enw da Prifysgol Caerdydd fel canolfan ragoriaeth sy'n arwain y byd ym maes addysgu, cyfnewid gwybodaeth, ac ymchwil gweithgynhyrchu.
Ategu, cefnogi a gwella ymchwil o safon a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth o fewn ac ar draws grwpiau gweithgynhyrchu sefydledig Prifysgol Caerdydd, yn enwedig lle ceir cyfleoedd trawsddisgyblaethol a chydweithredol, gan gynnig cefnogaeth logistaidd, weinyddol a materol wedi eu teilwra.
Hwyluso cyfranogiad eang mewn ymchwil gweithgynhyrchu i greu dulliau sydd â'r nod o fynd i'r afael â heriau ymchwil sy'n wynebu'r sector Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel.
Bydd CAMSAC yn cefnogi datblygiad partneriaethau â chydweithwyr yn y byd academaidd, byd diwydiant a'r gymuned o randdeiliaid yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu mewn disgyblaethau gweithgynhyrchu sy'n cael eu hystyried y tu hwnt i rai 'traddodiadol'.
Ein gwerthoedd
Datblygu a chynnal cymuned gynhwysol a chefnogol yn seiliedig ar ymddiriedaeth ac wedi'i danategu gan ragoriaeth academaidd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth o ran disgyblaethau ac athroniaethau, lle gall syniadau ac arloesedd ffynnu a chynnig manteision ymarferol go iawn i'r sector gweithgynhyrchu a'r gymdeithas ehangach y mae'n gweithredu ynddi.