Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol yw CAMSAC a sefydlwyd er mwyn adeiladu’n uniongyrchol ar enw da Prifysgol Caerdydd yn rhyngwladol am arwain ymchwil sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu.

Mae CAMSAC yn pontio disgyblaethau peirianneg a busnes, ac mae’n dilyn dull cyfannol, rhyngddisgyblaethol, gan weithio'n agos gyda phartneriaid ym myd diwydiant, er mwyn astudio a datblygu cysyniadau newydd ym maes Systemau Gweithgynhyrchu Uwch drwy bortffolio ymchwil helaeth, ategol, trosglwyddo gwybodaeth, gweithgareddau ymgysylltu ac addysgu.

Mae portffolio CAMSAC ar hyn o bryd yn derbyn cyllid o amrywiaeth eang o ffynonellau allanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yr EPSRC, y Bwrdd Strategaeth Technoleg, yr Undeb Ewropeaidd a byd diwydiant.

Mae CAMSAC wedi esblygu o hanes hir o weithio rhyngddisgyblaethol o fewn Prifysgol Caerdydd ac yn estyn yr hanes hwnnw, gan gynnwys Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Arloesol Prifysgol Caerdydd (CUMRIC). Ac yn fwy diweddar, elfennau Prifysgol Caerdydd o brosiect £14.7m Technoleg Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch (ASTUTE 2020+), a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE drwy Lywodraeth Cymru. 

Cydweithio

Ar hyn o bryd darperir ffocysau cynradd ar gyfer ein gwaith gan Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau (LOM) Ysgol Busnes Caerdydd a gan Grwp Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yr Adran Peirianneg.

Hefyd rydym yn gweithio’n helaeth gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol sy'n dod ag arbenigedd ychwanegol mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth o ddisgyblaethau peirianneg a busnes eraill ynghyd â meddygaeth, cemeg a chymdeithaseg.

Partneriaethau allanol

Mae CAMSAC wedi bod wrthi’n gweithio ar y cyd â chydweithwyr mewn prifysgolion ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, ac mae’r cydweithrediadau diweddar gan gynnwys saith SAU arall Cymru sy'n ymwneud ag ASTUTE, yn ogystal â Chaerfaddon, Strathclyde, Ulster, Twente (yr Iseldiroedd), Talaith Arizona (UDA) a Waikato (Seland Newydd), i enwi ond ychydig.

Hefyd mae gan CAMSAC gysylltiadau helaeth gyda diwydiant, mae’n gweithio gyda chwmnïau byd-eang mawr megis Ford, Tata a BAE Systems ar y naill law ac ar y llaw arall mae’n cefnogi amrywiaeth eang o fusnesau bach a chanolig Cymru drwy ymchwil ar y cyd a datblygu.