Porth Talybont
Cwblhawyd y breswylfa myfyrwyr yn 2014, ac mae ardaloedd cymunedol mawr gydag amrywiaeth o gyfleusterau yn yr adeilad.
Yn fyr
- Cwblhawyd: Medi 2014
- Cost: £6.3m
- Pensaer: Rio Architects
- Contractwr: Balfour Beatty
Mae Porth Talybont yn neuadd breswyl chwe llawr gyda lle i 179 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
Dylunio cynaliadwy
Yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i leihau eu ôl troed carbon, roedd cynaliadwyedd yn brif ystyriaeth ar gyfer yr adeilad.
Mae nodweddion amgylcheddol yn cynnwys golau synwyryddion symudiad a phaneli solar wedi’u gosod ar y to i roi pŵer i’r adeilad. Bydd myfyrwyr sy'n y breswylfa yn cyfrannu at y grid cyfleustodau ar bob adeg arall.
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sy'n gweddu i anghenion, diddordebau a phoced yr unigolyn.