sbarc|spark
Mae sbarc|spark yn cysylltu ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol, arweinwyr y sector cyhoeddus, entrepreneuriaid a chynghorwyr proffesiynol i lunio ein dyfodol.
Mae partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn cydweithio ag ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol yn SPARK – Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol – a chyda chwmnïau newydd a chwmnïau deilliedig yn Cardiff Innovations.
Wedi'i adeiladu'n bwrpasol i ysgogi posibiliadau newydd, mae'r ganolfan yn cynnwys unedau masnachol, swyddfeydd a mannau cydweithio, labordai, gwelyau profi a mannau arddangos — lleoedd i gwrdd, cydweithio a chyd-greu.
Datblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol drwy wneud gwaith ymchwil ar y cyd.
Rhoi cefnogaeth i gwmnïau dyfu gyda hyder.
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn sbarc|spark, cysylltwch â: spark@caerdydd.ac.uk
I gael gwybodaeth am fenter, busnesau newydd a chwmnïau deilliedig, cysylltwch â sbarcinnovations@caerdydd.ac.uk