Cartref newydd i'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
Cartref newydd i'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
Mae’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi symud i leoliad newydd yng nghanol y ddinas ochr yn ochr â BBC Cymru Wales ac yn agos i Reach, lle caiff papurau newydd megis WalesOnline, y Western Mail a’r South Wales Echo eu creu.
Mae adleoli’n helpu’r Ysgol i ddatblygu cysylltiadau cryfach â byd diwydiant a hybu cyflogadwyedd myfyrwyr drwy gael mynediad uniongyrchol at sefydliadau blaenllaw yn y cyfryngau.
Cynllun a thu mewn yr adeilad
Cafodd y penseiri IBI eu comisiynu i ddylunio cynllun yr Ysgol a’i haddurno, sy’n cynnwys:
- Pedair darlithfa gan gynnwys darlithfa 300 sedd
- Chwe ystafell newyddion a phedair ystafell olygu, pob un ag adnoddau cyfrifiadurol arloesol – gan wneud yn siŵr eu bod yn gwbl unol â safonau'r diwydiant
- Dwy stiwdio deledu a dwy stiwdio radio, dwbl yr hyn oedd gan yr adeilad blaenorol i'w gynnig, gyda thechnoleg wedi'i diweddaru a'i gwella
- Labordy Arloesi ac Ymgysylltu newydd – lle bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau trwy ddysgu ymarferol dan arweiniad ymchwil mewn gwyddorau data, codio cyfrifiadurol a datblygiad digidol. Bydd y lab yn cynnig ffyrdd newydd a chyffrous i newyddiadurwyr ac ymarferwyr cyfryngau i adrodd eu straeon
- Y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol
Yn gryno
- Wedi cwblhau: Medi 2018
- penseiri: IBI Group
- contractwyr: ISG.
Dyluniad cynaliadwy
Mae gan y dyluniad darged o gael sgôr BREEAM ardderchog. Mae'r gwahanol denantiaid yn cefnogi hyn, gyda chytundeb les werdd sy'n cynnwys prosesau caffael cynaliadwy, ansawdd aer a dŵr, a chynlluniau teithio.