Abacws
Mae Abacws yn dod â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a'r Ysgol Mathemateg at ei gilydd mewn un cyfleuster o'r radd flaenaf.
Yr adeilad 10,000 metr sgwâr yw’r cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd i ddefnyddio ffordd newydd o weithio sy'n ymgorffori cydweithrediad a chydweledigaeth ond yn cadw hunaniaeth wahanol y ddwy Ysgol.
Cafodd yr adeilad sengl chwe llawr ei ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol a mannau addysgu arloesol fel nodwedd allweddol.
Mae'r adeilad wedi'i leoli ar Ffordd Senghennydd wrth ymyl gorsaf reilffordd Cathays, ar safle a oedd yn cael ei ddefnyddio’n flaenorol fel un o feysydd parcio'r Brifysgol.
Nodweddion a chyfleusterau allweddol
- Ystafelloedd seminar a darlithfeydd hyblyg â chynllun arloesol i annog rhyngweithio
- Mannau pwrpasol i fyfyrwyr wneud gwaith prosiect
- Labordai cyfrifiadurol sy’n galluogi gwaith grŵp, dosbarthiadau ac astudio ar eich pen eich hun
- Mannau sy’n agored i'n partneriaid diwydiannol i roi cyfleoedd ymgysylltu rhagorol i'n myfyrwyr
- Mannau cydweithio a gweithdai TG i gefnogi prosiectau cyfrifiadureg ymarferol
- Ystafell Fasnach efelychiadol newydd ar gyfer mathemateg ariannol
- Labordy seiberddiogelwch ar gyfer addysgu a gwneud ymchwil.
Yn gryno
- Cost: £39m
- Pensaer: Stride Treglown gydag Adjaye Associates
- Contractwr: ISG
- Dyddiad cwblhau disgwyliedig: Medi 2021