Ewch i’r prif gynnwys

Cysylltwch â'n timau busnes

Os oes angen cyngor ac arweiniad arbenigol arnoch am weithgareddau ar gyfer busnesau sydd gennym, cysylltwch â ni.

Mae ein tîm Ymgysylltu Busnes a Phartneriarthau yn cefnogi sefydliadau, sy’n amrywio o BBaChau i gwmnïau aml-wlad yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, i ymgysylltu â’n Prifysgol. O gael gafael ar arbenigedd a chyfleoedd am gyllid ar y cyd at ddibenion ymchwil a datblygu, i gefnogi sefydliadau i gael gafael ar dalent a datblygu rhaglenni sgiliau.

Ymholiadau busnes

Y Tîm Ymgysylltu â Busnesau a Phartneriaethau

Bydd y tîm Ymgysylltu â Busnesau a Phartneriaethau yn ymroi i weithio gyda chi i gyflawni amcanion eich sefydliad. Mae'r tîm yn cynnig cyngor allweddol ar yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael, yn eich cysylltu chi â'n hymchwilwyr, ac yn cefnogi datblygiad prosiectau a phartneriaethau, a hyn oll wedi'i deilwra i gwrdd â’ch anghenion unigol.

Tîm Ymgysylltu Busnes a Phartneriaethau

Y Rhwydwaith Arloesedd

Mae ein Rhwydwaith Arloesedd yn pontio’r blwch rhwng y byd academaidd a diwydiant, gan ddatgloi potensial syniadau drwy gydweithio bywiog. Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau am ddim drwy gydol y flwyddyn ar bynciau sy'n ymwneud ag arloesedd, mentergarwch ac entrepreneuriaeth.

Ebost y Rhwydwaith Arloesedd

Trwyddedu a chwmnïau deillio

Rydyn ni’n cydweithio â sefydliadau i sicrhau bod ein gwaith ymchwil yn cynhyrchu’r budd mwyaf ac yn cwrdd ag anghenion y farchnad. Gallwch drwyddedu ein cynnyrch a’n prosesau newydd drwy gysylltu â’n swyddfa Trosglwyddo Technoleg.

Ebost trwyddedu a busnesau deillio

Hyfforddi a datblygu

Dewch i wybod am ein cynigion hyfforddiant ymarferol a phenodol. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau byr, hyfforddiant pwrpasol mewn pynciau arbenigol, rhaglenni ar-lein a modiwlau ôl-raddedig.

Cyswllt hyfforddi a datblygu

Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr

Drwy recriwtio ein myfyrwyr a'n graddedigion, byddwch chi’n cyflogi unigolion talentog, brwdfrydig ac amrywiol sy'n awyddus i ddysgu a rhoi eu sgiliau ar waith. Mae'r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cydweithio â sefydliadau i gynnig ffordd ymgynghorol sy'n seiliedig ar anghenion ac a fydd yn cefnogi eich ymgyrchoedd denu a recriwtio.

Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr

Cyfleusterau

Cyfleusterau a chyfarpar ymchwil

Dewch i weld beth all ein hadnoddau a'n cyfleusterau eu cynnig i chi. Cysylltwch â ni i drafod yr offer sydd ar gael i'w llogi neu ar sail ymgynghoriaeth, am brisiau cystadleuol. Gellir cynnig cymorth a hyfforddiant arbenigol i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch apwyntiad.

Cyfleusterau ymchwil

Cynadleddau a Digwyddiadau

Rydym yn cynnig lleoliadau delfrydol ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau ac ymwelwyr sy'n dod i Gaerdydd. Mae ein tîm digwyddiadau yn cynnig gwasanaeth a chyngor o safon uchel ar addasrwydd ystod eang o gyfleusterau ledled y Brifysgol.

Cyswllt cynadleddau