Trwyddedu ein canfyddiadau ymchwil
Mae canlyniadau ein gwaith ymchwil yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin arloesedd, cefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd a chyfrannu at welliannau mewn iechyd ac ansawdd bywyd.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod canlyniadau ein gwaith ymchwil yn cael eu defnyddio er y budd ehangaf posibl. Rydym yn gwneud hyn i gyd mewn cydweithrediad â nifer o bartneriaid, gan gynnwys cwmnïau lleol a chorfforaethau amlwladol, llywodraeth ac asiantaethau rhyngwladol, a nifer o gyrff eraill ledled y byd.
Nodwch, mae'r fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae gwneud yn siŵr bod ein hymchwil arloesol ar gael i fusnesau yn rhan allweddol o’n cenhadaeth. Wrth wneud hynny, ein nod yw gwella'r gallu i gystadlu, cynhyrchiant a mynediad diwydiant a masnach.
Gallwch drwyddedu ein cynnyrch a’n prosesau newydd drwy gysylltu â’n swyddfa Trosglwyddo Technoleg. Rydym hefyd yn gweithio’n rhagweithiol i sefydlu cyd-fentrau a chwmnïau newydd.
Ar gyfer darpar drwyddedeion a buddsoddwyr
Mae ein gwariant allanol ar ymchwil yn fwy na £100M y flwyddyn, gan arwain at nifer o gyfleoedd buddsoddi. Mae enghreifftiau o’n portffolio’n cynnwys:
- Mae Alesi Surgical yn sicrhau £2.1m o gyllid - gan roi hwb i fasnacheiddio ei brif gynnyrch, Ultravision™ ymhellach.
- Buddsoddiad i gyfrwng canser y fron newydd - Partneriaeth gyda Tiziana Pharmaceuticals i gefnogi gwaith ar gyfrwng gwrth-ganser newydd
- Diurnal yn cyhoeddi llwyddiant cam II Chronocort - Cynnydd cadarnhaol astudiaeth glinigol CATCH (Chronocort® As Treatment for Congenital Adrenal Hyperplasia) gan Diurnal
- Cwmni deilliannol ENGIN yn ennill £650k o arian DECC - Mae Fault Current Limited wedi derbyn grant £635,000 gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC)
- Cwmni deilliannol MedaPhor yn mynd i mewn i farchnad Tsieina - Cytundeb dosbarthu ecsgliwsif gyda Tellyes Scientific i werthu ystod MedaPhor o ysgogyddion uwchsain i dir mawr Tsieina
- Asalus yn cael llwyddiant treial clinigol - Llwyddiant treial 'First-In-Man' i Ultravision™ Technology.
Swyddfa Trosglwyddo Technoleg
Mae Fusion IP yn adeiladu busnesau sy'n gwneud elw o'n eiddo deallusol rhagorol