Hysbysebu cyfle am ymgysylltu dinesig
Gallwch elwa o wybodaeth arbenigol ac arbenigedd ein staff drwy eu cynnwys mewn cyfle ymgysylltiad dinesig gydag eich sefydliad.
Mae sawl ffurf ar gyfleoedd ymgysylltu dinesig, er enghraifft, bod yn aelod o bwyllgorau neu fyrddau sy'n gwneud penderfyniadau, cynghori a monitro gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd Cymru o addysg ac iechyd i chwaraeon a'r celfyddydau.
Mae gan ein staff ystod eang o wybodaeth arbenigol ac arbenigedd a allai fod o fudd i'ch sefydliad.
Rydym yn chwarae rhan weithredol yn ein cymuned ac yn cefnogi ein staff i ymgymryd â dyletswyddau dinesig, gan gynnwys drwy gynnig absenoldeb â thâl.
Dywedwch wrthym am gyfle ymgysylltu dinesig neu gyhoeddus drwy ddanfon ebost atom gyda'r manylion canlynol:
- enw’r sefydliad
- disgrifiad o’r cyfle ymgysylltu dinesig
- sgiliau sydd eu hangen (os yn berthnasol)
- dyddiad cau
- sut i wneud cais
Byddwn yn hysbysebu cyfleoedd ar ein mewnrwyd staff a thrwy ddulliau cyfathrebu mewnol eraill.
Tîm Cenhadaeth Ddinesig
Rydym yn cyflwyno cenhadaeth ddinesig i gefnogi iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru drwy weithio gyda’n cymunedau.