Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth

Manteisiwch ar ein sgiliau academaidd a’n harbenigedd i’ch gwneud yn fwy cystadleuol a rhoi hwb i’ch cynhyrchiant a’ch perfformiad.

Ynglŷn â KTPs

Mae'r rhaglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn creu partneriaeth tair-ffordd ddeinamig rhwng busnes, tîm academaidd arbenigol a myfyriwr graddedig neu ôl-raddedig talentog (y Cydymaith).

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys mwy nag un person cymwys (cydymaith) i hwyluso trosglwyddo sgiliau ac arbenigedd. Maent yn gweithio o fewn eich sefydliad ar brosiect sy'n ganolog i’ch anghenion ac yn cael eu goruchwylio gan bersonél y cwmni ac uwch-academydd.

Mae'r rhaglen, sy’n cael ei hariannu gan UKRI drwy Innovate UK, wedi bod yn rhedeg am 50 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi galluogi mwy na 14,000 o fusnesau i arloesi er mwyn sicrhau effaith gadarnhaol. KTN yw un o bartneriaid y rhaglen.

Mae KTP yn cael ei ariannu'n rhannol gan grant. Bydd angen i chi gyfrannu at gyflog y Cydymaith a fydd yn gweithio gyda'ch busnes, ynghyd â chost goruchwyliwr a fydd yn goruchwylio'r cynllun.

Mae'r swm y bydd angen i chi ei gyfrannu yn dibynnu ar raddfa a hyd y prosiect. Bydd hefyd yn dibynnu ar faint eich cwmni.

Sut bydd eich sefydliad yn elwa

Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth i fusnesau

Gall cymryd rhan mewn partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth fod o fydd i’ch busnes trwy helpu i ddatrys her benodol y mae eich busnes yn ei hwynebu. Gallwch chi fanteisio ar arbenigedd academaidd ac adnoddau nad oes gennych chi’n fewnol.

Gan weithio gyda'ch partner sylfaen wybodaeth, byddwch chi’n gwella prosesau a pherfformiad eich busnes, gan eich helpu i ddod yn fwy cystadleuol a chynhyrchiol.

Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth ar gyfer y trydydd sector ac elusennau

Bydd partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth yn eich helpu i ddatblygu ffrydiau incwm newydd i gefnogi gwaith eich sefydliad drwy ddatblygu neu wella eich cynnyrch a’ch gwasanaethau. Gall partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth eich helpu i ddod yn fwy effeithlon a mwy arloesol drwy eich galluogi i fanteisio ar arbenigedd academaidd ac adnoddau nad ydych chi’n gallu manteisio arnyn nhw ar hyn o bryd.

Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth ar gyfer y sector cyhoeddus

Mae llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn gymwys i wneud cais am bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth rheoli. Bydd hyn yn helpu sefydliadau yn y sector cyhoeddus i weithio gydag arbenigwyr o'u sylfaen wybodaeth ddewisol i wella systemau, prosesau a galluoedd rheoli

Astudiaethau achos

Mae gennym nifer helaeth o brosiectau KTPs llwyddiannus sydd wedi ennill gwobrau.

Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych gan y Brifysgol, yn ehangu ein gwybodaeth drwy gydol y datblygiad o’r maes ymchwil ond hefyd yn ymarferol, yn ymgorffori gallu i ni barhau i gynhyrchu cynnyrch arloesol ac aros yn arweinydd y farchnad DU. Mae gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd wedi ein galluogi i fod yn rhan annatod o ymchwil arloesol.

Guy Braverman Cyfarwyddwr a Chyd-Sylfaenydd GAMA Healthcare

Cymryd rhan

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, yna cysylltwch â ni.