Gwella effaith amgylcheddol digwyddiadau mawr
Datblygodd ein tîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr becyn cymorth gwerthuso i wneud digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol yn fwy cynaliadwy.
Yn hanesyddol, mae gwerthusiadau o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol wedi canolbwyntio’n fwy ar eu canlyniadau economaidd. O ganlyniad, mae canlyniadau amgylcheddol digwyddiadau o'r fath wedi cael eu hanwybyddu.
Mewn ymateb i hyn, cyfunodd tîm o ymchwilwyr o Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd eu harbenigedd i asesu effeithiau amgylcheddol ac economaidd digwyddiadau mawr.
Roedd ffocws rhyngddisgyblaethol y tîm yn golygu eu bod yn defnyddio dulliau economaidd i ddadansoddi gwariant mewn digwyddiadau ynghyd â dulliau a ddefnyddir i asesu'r effeithiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r gwariant hwn.
Dull cyfun
Yn 2004, tîm Caerdydd oedd y cyntaf i ddefnyddio cyfuniad o ddau ddull sydd eisoes yn bodoli ar gyfer asesu digwyddiadau ar y cyd wrth iddynt werthuso Gêm Derfynol Cwpan yr FA yn Stadiwm y Mileniwm (yr enw ar y pryd) yng Nghaerdydd.
Yn ogystal â dangos y gallai'r dulliau gael eu defnyddio gyda'i gilydd, llwyddodd y tîm i wneud y canlynol:
- dangos y gellid amcangyfrif allyriadau drwy asesu'r gwariant sy'n gysylltiedig â digwyddiadau
- nodi'r mathau o wariant a gafodd yr effeithiau amgylcheddol mwyaf
- ac amlygu sut y gallai lleihau teithio awyr a theithio mewn ceir leihau effeithiau amgylcheddol digwyddiadau yn sylweddol
Roedd gêm rygbi'r Chwe Gwlad yn 2006 yng Nghaerdydd, Grand Départ Tour de France 2007 yn Llundain, a digwyddiadau diwylliannol, gan gynnwys Gŵyl y Gelli 2012, yn cynnig cyfleoedd pellach i’r tîm ymchwil asesu a chymharu effeithiau economaidd ac amgylcheddol digwyddiadau mawr.
Argymhellodd yr ymchwilwyr y dylid defnyddio'r dull cyfunol hwn fel mater o drefn wrth werthuso effaith digwyddiadau gan ei fod yn galluogi trefnwyr digwyddiadau, llunwyr polisïau ac ymgynghorwyr i ystyried effeithiau amgylcheddol ochr yn ochr ag effeithiau economaidd.
Mae mabwysiadu'r dull hwn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi newid sut mae llunwyr polisïau, trefnwyr digwyddiadau ac ymgynghorwyr yn deall ac yn gwerthuso effeithiau amgylcheddol niweidiol eu digwyddiadau.
Cynnal digwyddiadau mwy cynaliadwy
Yn 2016, gwahoddwyd tîm ymchwil Caerdydd i adolygu adran amgylcheddol pecyn cymorth EventIMPACTS UK Sport.
Cyflwynwyd y pecyn cymorth yn 2008 i safoni’r methodolegau ar gyfer effaith digwyddiadau, ac mae'n cael ei reoli ar sail gydweithredol rhwng UK Sport a phartneriaid sy’n cynnwys yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Discover Northern Ireland, Event Scotland a Llywodraeth Cymru.
Ers iddo gael ei ailddatblygu gan dîm Caerdydd yn 2017, mae tua 3,000 o unigolion a sefydliadau yn y DU ac ar draws pum cyfandir wedi cofrestru i ddefnyddio'r pecyn cymorth ar ei newydd wedd, gan arwain at ddigwyddiadau mwy cynaliadwy yn y DU ac yn rhyngwladol.
Yn ystod y flwyddyn honno, cydweithiodd Dr Collins a'r Athro Munday ag UK Sport i gynnal arolwg o ddefnyddwyr cofrestredig y pecyn cymorth. Dangosodd yr ymatebion fod eventIMPACTS wedi cael ei ddefnyddio i asesu effeithiau economaidd ac amgylcheddol digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol gan ystod eang o sefydliadau ar draws 13 o wledydd ledled y byd.
Nododd yr ymatebwyr fod y pecyn cymorth yn helpu i lywio penderfyniadau, polisïau a chamau gweithredu cynllunio, a bod hynny wedi arwain at gynnal digwyddiadau mwy cynaliadwy.
Dangosodd yr arolwg y canlynol:
- Roedd 47% o sefydliadau yn cytuno'n gryf ei fod wedi gwella eu dealltwriaeth o effeithiau amgylcheddol digwyddiadau ynghyd â'u gwaith gwerthuso
- Roedd 31% o sefydliadau yn cytuno'n gryf ei fod wedi gwella eu ffordd o feddwl am sut i leihau effeithiau amgylcheddol
- Roedd 22 o sefydliadau wedi defnyddio adnoddau'n uniongyrchol o adran amgylcheddol eventIMPACTS i lywio penderfyniadau wrth gynllunio a chynnal digwyddiadau
- Roedd 27% wedi lleihau effaith amgylcheddol negyddol eu digwyddiadau o ganlyniad i ddefnyddio'r pecyn cymorth
Dyma’r tîm
Cysylltiadau pwysig
Yr Athro Max Munday
- mundaymc@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5089
Dr Andrea Collins
- collinsa@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0279
Aelodau staff
Yr Athro Calvin Jones
- jonesc24@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5470
Dr Annette Roberts
- robertsa1@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5058
Dr Nicole Koenig-Lewis
- koenig-lewisn@cardiff.ac.uk
- +44 (29) 2087 0967
Yr Athro Andrew Flynn
- flynnac@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4851
Dr Crispin Cooper
- cooperch@cardiff.ac.uk
- +44(0) 29 2087 6072
Cyhoeddiadau dethol
- Collins, A. and Roberts, A. 2017. Assessing the environmental impact of economic activity surrounding major sport events. In: McCullough, B. and Kellison, T. eds. Routledge Handbook of Sport and the Environment. Oxford: Routledge. , pp.207 - 219. (10.4324/9781315619514-15)
- Collins, A. J. , Munday, M. C. R. and Roberts, A. 2012. Environmental Consequences of Tourism Consumption at Major Events: An Analysis of the UK Stages of the 2007 Tour de France. Journal of Travel Research 51 (5), pp.577-590. (10.1177/0047287511434113)
- Collins, A. J. , Jones, C. and Munday, M. C. R. 2009. Assessing the environmental impacts of mega sporting events: Two options?. Tourism Management 30 (6), pp.828-837. (10.1016/j.tourman.2008.12.006)
- Jones, C. and Munday, M. C. R. 2007. Exploring the Environmental Consequences of Tourism: A Satellite Account Approach. Journal of Travel Research 46 (2), pp.164-172. (10.1177/0047287507299592)
- Collins, A. J. et al. 2007. Assessing the Environmental Consequences of Major Sporting Events: The 2003-04 FA Cup Final. Urban Studies 44 (3), pp.457-476. (10.1080/00420980601131878)