Ewch i’r prif gynnwys

Gwella gwaith cynghorau lleol trwy gymheiriaid

Llunio dulliau y bydd cymheiriaid yn eu harwain i wella gwaith cynghorau lleol Cymru a Lloegr.

Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd i’r modd mae cymheiriaid yn asesu gwaith cynghorau lleol Lloegr wedi helpu i wella eu gwaith ledled y wlad ac arbed llawer o arian.

Mae cwestiynu gan gymheiriaid yn ffordd o wella gwasanaethau cyhoeddus yn barhaus, yn arbennig ym maes llywodraeth leol. Hanfod y broses yw y bydd tîm o uwch reolwyr a gwleidyddion lleol yn ymweld â chyngor lleol am rai dyddiau i asesu nifer o elfennau craidd sy’n hanfodol i’r modd mae’r cyngor hwnnw’n cyflawni ei waith. Diben y broses yw helpu cynghorau lleol i ysgwyddo cyfrifoldeb am eu gwella eu hunain.

Ymchwil Prifysgol Caerdydd roes yr unig asesiad annibynnol o drefn Cymdeithas Llywodraeth Leol ar gyfer asesu gwaith cynghorau lleol trwy gwestiynu gan gymheiriaid, gan gynnig tystiolaeth ategol sydd wedi helpu Llywodraeth San Steffan i barhau i ariannu’r broses.

Asesu effeithiolrwydd y cwestiynu gan gymheiriaid

Yn ôl tri cham, asesodd yr ymchwilwyr effeithiolrwydd, effeithiau a gwerth arian cwestiynu gan gymheiriaid.

Yn y cam cyntaf (2012), dadansoddon nhw gyfres gyntaf y cwestiynu gan gymheiriaid yng nghynghorau lleol Lloegr i bennu a oedd y dull yn addas i’w ddiben ac yn diwallu anghenion y cynghorau.

Cysyllton nhw ag arweinyddion gwleidyddol ac uwch reolwyr dros 50 o sefydliadau trwy holiaduron, dadansoddi a chyfweld.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod y dull yn gweithio’n dda, ond fe roes gyfres o argymhellion i’w wella gan gynnwys ffyrdd o gynyddu nifer y cynghorau oedd yn ei ddefnyddio yn Lloegr.

Yn yr ail gam (2013-14), asesodd yr ymchwilwyr effeithiolrwydd y broses a nodi effeithiau buddiol mewn pum maes allweddol:

  • rhagor o hunanymwybyddiaeth gan gynghorau
  • gwell enw da yn allanol
  • newid ymddygiad cynghorau
  • newid sefydliadol
  • trawsffurfio gwasanaethau
Young businesswoman in office having speech and presentation with flip chart

Amlinellodd yr adroddiad syniadau i wella'r broses ac argymhellodd y dylai Llywodraeth San Steffan barhau i ariannu trefn y cwestiynu gan gymheiriaid.

Yn y trydydd cam, edrychon nhw ar effeithiolrwydd, effeithiau a gwerth arian y rhaglen ynghylch helpu cynghorau lleol i wella eu gwaith a chynllunio’n ariannol.

Eu barn oedd bod cwestiynu gan gymheiriaid yn rhoi gwerth arian o’i gymharu â’r drefn flaenorol, arolygu allanol. Cyflwynon nhw 30 o argymhellion i wella’r broses, megis mireinio’r wybodaeth a roddir i’r cymheiriaid cyn eu hymweliadau ac ehangu’r tîm i gynnwys cynrychiolwyr o’r tu allan i faes llywodraeth leol.

Deilliannau gwell ac arbedion ariannol mawr i gynghorau’r deyrnas

Roedd trefn flaenorol Llywodraeth San Steffan, arolygwyr allanol, yn un ddrud (£2 biliwn y flwyddyn) oedd yn cael ei hystyried yn fwyfwy beichus. Mae’r ffordd amgen o hunanwella, sef cwestiynu gan gymheiriaid, yn rhatach o lawer (£20 miliwn yn 2018-19).

Bellach, mae cwestiynu gan gymheiriaid yn rhan allweddol o bolisïau Llywodraeth San Steffan ar gyfer rheoleiddio llywodraethu achos mai dyma’r brif ffordd o asesu gwaith cynghorau lleol. Mae dros 75% o gynghorau lleol Lloegr wedi’i fabwysiadu bellach, er eu lles o ganlyniad i wella safon eu gwaith ac arbed llawer o arian.

Er mai dylanwadu ar bolisïau Lloegr oedd diben yr ymchwil, mae wedi helpu Llywodraeth Cymru i gyflwyno trefn newydd ar gyfer cyflawniad a llywodraethu, hefyd.

Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd i gwestiynu gan gymheiriaid wedi helpu’r broses i fod yn un effeithiol iawn mae llawer o hyder ynddi ac, wrth wneud hynny, mae wedi meithrin adnoddau a gallu’r cynghorau lleol i wella.

Dyma’r tîm

Cysylltiadau pwysig

Downe, J., and Martin, S. (2012) Evaluation of the Effectiveness of the Local Government Association’s Peer Challenge Programme, Local Government Association: London. PDF

Downe, J., Martin, S., and Doering, H. (2014) Supporting Councils to Succeed: Independent Evaluation of the LGA’s Corporate Peer Challenge Programme, Local Government Association: London. PDF

Downe, J., Bottrill, I., and Martin, S. (2017) Rising to the Challenge: An Independent Evaluation of the LGA’s Corporate Peer Challenge Programme, Local Government Association, London. PDF