Ewch i’r prif gynnwys

Gwella’r defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisïau

Mae proses arloesol o baratoi gwybodaeth yn ôl y galw wedi cynyddu’r dystiolaeth a ddefnyddir gan Weinidogion a gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol.

Welsh Assembly debating chamber

Mae’r llywodraeth, cynghorau ymchwil a chyllidwyr ymchwil eraill wedi pwysleisio’r angen i ymchwil academaidd ymwneud â heriau’r byd ‘go iawn’.

Ond, yn aml, nid yw llunwyr polisïau’n ymwybodol o waith ymchwil ac arbenigedd perthnasol o fewn prifysgolion neu nid ydynt yn gwybod sut i gael mynediad ato. Yn yr un modd, nid yw llawer o ymchwilwyr yn sylweddoli'r gwerth y gallent ei ychwanegu at benderfyniadau polisi, neu nid ydynt yn gwybod sut i ymgysylltu'n effeithiol â'r llywodraeth.

Dull newydd o baratoi gwybodaeth

Yn 2010, dadansoddodd yr Athro Steve Martin gryfderau a gwendidau dulliau presennol o gynhyrchu ymchwil gwyddor gymdeithasol sy’n berthnasol i bolisi. Daeth i’r casgliad ei bod yn hanfodol cynnwys llunwyr polisïau fel bod gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y materion maen nhw’n mynd i’r afael â nhw a’i fod ar gael pan fydd arnynt ei angen i lywio penderfyniadau polisi.

Adeiladodd yr Athro Martin ar y gwaith ymchwil hwn fel cyd-ymchwilydd y rhaglen Llywiwr Gwybodaeth a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Roedd argymhellion allweddol y prosiect yn cynnwys yr angen i:

  • gynyddu cymhellion a chyfleoedd ar gyfer cydweithrediadau ymchwil-polisi
  • newid y diwylliant mewn cymunedau academaidd a pholisi, a datblygu dulliau mwy systematig o sicrhau cysylltedd rhyngddynt
  • buddsoddi mewn adolygiadau cyflym o dystiolaeth sy’n dwyn ynghyd waith ymchwil presennol ar faterion sy’n flaenoriaethau i lunwyr polisïau

Llywio’r broses o lunio polisïau a arweinir gan dystiolaeth yng Nghymru

Yn 2013, ffurfiwyd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW) i bontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a Llywodraeth Cymru drwy fabwysiadu argymhellion yr Athro Martin. Bedair blynedd yn ddiweddarach, arweiniodd llwyddiant PPIW at greu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) i ymestyn ac ehangu'r gwaith yr oedd wedi'i wneud.

Mae WCPP, a ariennir gan yr ESRC a Llywodraeth Cymru, yn aelod gweithgar o rwydwaith Yr Hyn sy’n Gweithio y Deyrnas Unedig. Mae ei staff yn gweithio'n agos gyda gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i amlygu’r angen am dystiolaeth ac yna'n cydweithio ag academyddion blaenllaw sy'n arbenigo yn y materion hynny. Mae prosiectau wedi'u teilwra i anghenion llunwyr polisïau a chaiff y canfyddiadau eu cyfleu mewn iaith anarbenigol fel y gall gwleidyddion a swyddogion prysur eu cymhathu'n gyflym.

Effaith ar bolisi Llywodraeth Cymru

Mae’r ffordd y mae WCPP yn gweithio’n agos gyda llunwyr polisïau i amlygu’r angen am dystiolaeth ac yna brocera tystiolaeth bresennol, wedi gwella’r broses o lunio polisïau yng Nghymru. Mae defnyddio gwybodaeth bresennol, yn hytrach na chomisiynu ymchwil newydd, yn rhoi gwerth rhagorol am arian ac yn golygu y gall WCPP ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i anghenion sy'n dod i'r amlwg.

Mae gwaith WCPP wedi'i amlygu fel enghraifft sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang o arfer da wrth lunio polisïau ar sail tystiolaeth gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a chyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Dathlu Effaith fawreddog yr ESRC.

Dywed swyddogion Llywodraeth Cymru ei fod wedi chwarae rôl annatod wrth ddatblygu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb i effeithiau economaidd a chymdeithasol y pandemig COVID-19 drwy “ddarparu tystiolaeth berthnasol ac amserol i amlygu heriau a blaenoriaethau wrth iddi ganolbwyntio ar adfer”. Mae ei waith hefyd wedi llywio penderfyniadau allweddol ar draws meysydd polisi gan gynnwys yr economi, Brexit, cyflogadwyedd, ailgylchu gwastraff, gwella gwasanaethau cymdeithasol i blant, a mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Mae gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cryfhau yn sylweddol y modd y lluniwn bolisi yng Nghymru. Mae’n rhoi inni dystiolaeth annibynnol o safon uchel sy’n herio ein rhagdybiau cyfredol a gwella ein penderfyniadau.
Mark Drakeford Prif Weinidog Cymru

Dyma’r tîm

Cysylltiadau pwysig