Arloesedd cyfrifol
Rydym yn gweithredu mewn modd rhyngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar y rhanddeiliad i nodi sbardunau, prosesau a chanlyniadau arloesedd, a gwerthuso goblygiadau cymdeithasol, ariannol ac ymddygiadol newid technolegol.
Mae ein pwyslais ar arloesedd cyfrifol wedi annog ymchwil helaeth ar gadwyni cyflenwi cynaliadwy, logisteg werdd a sicrhau buddion cymunedol drwy gaffael cyhoeddus a phreifat.
Rydym wedi defnyddio ein hystod eang o arbenigedd yn y maes hwn fel catalydd i hybu arloesedd cyfrifol ar draws Prifysgol Caerdydd a rhanbarth ehangach Caerdydd drwy:
- ymgysylltu mewn cydweithrediadau mawr, fel ASTUTE lle rydym yn ffurfio partneriaethau â BBaChau
- arwain datblygiad parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol newydd Prifysgol Caerdydd - sbarc | SPARK
- ffurfio partneriaethau ag arweinwyr y sector, megis DSV-Panalpina, i ddatblygu prosesau a systemau cynaliadwy ar draws y diwydiant
- cydweithredu â’r Lab - Labordy Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- cydlynu digwyddiadau a mentrau’r Rhwydwaith Arloesedd Cyfrifol
- sefydlu’r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd
- a chydweithredu â’r Ysgolion Cyfrifiadureg, Mathemateg a Pheirianneg ar Blockchain a Deallusrwydd Artiffisial.
Rhwydwaith arloesedd cyfrifol
Sefydlwyd ein Rhwydwaith Arloesedd Cyfrifol (RIN) gan yr Athrawon Tim Edwards a Luigi De Luca, arbenigwyr yn y meysydd astudiaethau sefydliadol a marchnata, i annog perthnasau cydweithredol a ‘hyrwyddo dealltwriaeth, ymarfer a gwasgariad arloesedd cyfrifol.’
Mae’r Rhwydwaith yn gweithredu ar reng flaen ymchwil ryngddisgyblaethol sydd o bwys rhyngwladol, gan gefnogi entrepreneuriaid benywaidd ac entrepreneuriaid sy’n ffoaduriaid; sicrhau bod arloesiadau a lywir gan dechnoleg sydd wedi’u dylunio yn Affrica ac America Ladin yn cyd-fynd â dewisiadau cymunedau lleol a chynaliadwyedd; defnyddio cyllid i ymgysylltu â phlant ysgol Caerdydd yn y defnydd cyfrifol o gyfryngau cymdeithasol; a mynd i’r afael â thymereddau dan do uchel a chynhyrchu ffrydiau incwm cynaliadwy ar gyfer teuluoedd yn Nigeria.
Darogan er lles cymdeithasol
Mae Dr Bahman Rostami-Tabar yn cynnal Cymrodoriaeth Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar weithgareddau ymchwil ac ymgysylltu ar ddarogan er lles cymdeithasol. Mae ysgolorion wedi defnyddio technegau darogan fel adnodd cynllunio sy’n helpu sefydliadau i bennu perfformiad ariannol y dyfodol.
Mae Dr Rostami-Tabar yn defnyddio technegau darogan i ragweld anghenion pobl a lleoedd yn y dyfodol. Mae hyn wedi arwain at gyd-gynhyrchu effaith ymchwil gyda’r Groes Goch Ryngwladol, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r GIG.
Gwneud gwahaniaeth drwy ein gwaith ymchwil
Mae ein gwaith ymchwil yn effeithio ar bobl a pholisi, gan wneud gwahaniaeth i’n heconomi a’n cymdeithas.
Arloesedd mewn gwasanaethau mabwysiadu
Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Dr Jayne Lynch gyda’r Ysgol Seicoleg a Chymdeithas Plant Dewi Sant, sydd wedi ennill gwobrau, wedi atgyfnerthu gwasanaethau mabwysiadu drwy ddod o hyd i gartrefi parhaol i’r plant sy’n aros hiraf am deulu, a chefnogi’r trefniadau hyn yn therapiwtig.
Mae’r Athrawon Jonathan Gosling a Mohamed Naim wedi gweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau priffyrdd a gweithrediadau i wella gallu caffael mewn sefydliadau sy’n cynnal prosiectau seilwaith mawr.
Gweithiodd yr Athro Aris Syntetos gyda chydweithwyr o Ysgol Busnes EM Lyon, Prifysgol Dechnegol Darmstadt a chymdeithas fasnach ym Mrwsel i ymchwilio i wallau mewn rhestrau eiddo i ddarganfod a all rhestrau eiddo manwl helpu i gynyddu gwerthiannau.
Pobl gysylltiedig
Yr Athro Jonathan Gosling
Reader in Supply Chain Management, Deputy Head of Section for Innovation and Research
- goslingj@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6081
Yr Athro Mohamed Naim
Head of the Logistics and Operations Management Section, Professor in Logistics and Operations Management, Co-Director of CAMSAC
- naimmm@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4635
Yr Athro Aris A. Syntetos
Distinguished Research Professor, DSV Chair
- syntetosa@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6572
Yr Athro Tim Edwards
Pro-Dean for Research, Impact and Innovation
Professor of Organisation and Innovation Analysis
- edwardstj@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6385
Yr Athro Luigi M. De Luca
Professor of Marketing and Innovation
- delucal@caerdydd.ac.uk
- +44 (0) 29 2087 6886
Yr Athro Bahman Rostami-Tabar
Athro Gwyddor Penderfyniad a Yrrir gan Ddata
- rostami-tabarb@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0723
Yr Athro Rick Delbridge
Professor of Organizational Analysis
- delbridger@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6644