Ewch i’r prif gynnwys

Llywodraethu da

Rydym yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â rheolaeth gyhoeddus a pholisi, gan gynnwys y defnydd o dystiolaeth gan lywodraethau, wrth ymchwilio i lywodraethu corfforaethol ar draws yr economi, gan archwilio tryloywder, atebolrwydd, cynhwysiant, moeseg a gwerthoedd.

Mae ein presenoldeb cyson yn neg uchaf Detholion y Byd Shanghai ers 2014 yn dyst i’n harbenigedd ymchwil hirsefydlog ar reolaeth gyhoeddus, llunio polisi a llywodraethu. Cryfhawyd gwaith ymchwil yn y maes hwn ymhellach trwy integreiddio themâu ychwanegol, gan gynnwys:

  • cyfansoddiad ac effeithiolrwydd byrddau corfforaethol
  • tryloywder ac atebolrwydd mewn adroddiadau cwmnïau
  • rôl tystiolaeth wrth lunio polisi cyhoeddus
  • a moeseg a gwerthoedd cyfoes o fewn sefydliadau cyhoeddus.

Sgandal gorfforaethol ac argyfwng ariannol

Wedi ein hysgogi gan sgandalau llywodraethu ac ariannol olynol, a amlygwyd yn arbennig ar adeg yr argyfwng ariannol byd-eang, lansiwyd Grŵp Ymchwil Llywodraethu Corfforaethol Caerdydd. Ac yntau’n un o'r grwpiau rhyngddisgyblaethol blaenllaw o'i fath, mae'n dod â chyfrifyddu a chyllid, astudiaethau sefydliadol ac ysgolheigion cyfreithiol ynghyd ag arbenigwyr polisi cyhoeddus a llywodraethu i fynd i'r afael â methiannau llywodraethu corfforaethol a'u hatal.

Mae aelod allweddol o'r grŵp, yr Athro Arman Eshraghi, wedi archwilio ymddygiadau corfforaethol sy'n hyrwyddo amrywiaeth a diogelwch defnyddwyr. Ymhelaethodd ar ddealltwriaeth o gamymddwyn corfforaethol, rôl fonitro byrddau cyfarwyddwyr a’r dyluniad gorau posibl ar gyfer byrddau corfforaethol i gefnogi amrywiaeth. Yn ôl adroddiad gan y Financial Times, mae gan y gwaith ymchwil hwn oblygiadau sylweddol i gyfrifoldeb ymddiriedol buddsoddwyr sefydliadol.

Cyd-gynhyrchu a gwerth cyhoeddus ledled yr UE

Yr Athro Martin Kitchener yw arweinydd Caerdydd ar gyfer consortiwm Ewropeaidd o ymchwilwyr sy'n archwilio graddau cyd-gynhyrchu a’r gwaith o gyflawni gwerth cyhoeddus ar draws gwledydd yr UE.

Wedi'i ariannu gan €4.5m o raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd, mae'r prosiect Cydgynhyrchu a Chyd-lywodraethu (COGOV) yn archwilio’r potensial i ddinasyddion ledled yr UE gyd-greu dyluniad a darpariaeth eu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae elfen Caerdydd o'r prosiect yn proffilio astudiaethau achos o gyd-gynhyrchu mewn gofal cymdeithasol, lle mae systemau wedi'u cynllunio mewn cydweithrediad agos â defnyddwyr gwasanaeth ag anawsterau dysgu.

Prosiectau fel hyn yw conglfaen ein strategaeth gwerth cyhoeddus. Maent yn sicrhau manteision cymdeithasol, yn ogystal â rhai economaidd, drwy fynd i'r afael â'r heriau anodd y mae'r gymdeithas gyfoes yn eu hwynebu. Pa ffordd well i ymchwilio i’r egwyddor hon na nodi sut y gall dinasyddion fod yn rhan o’r gwaith o lywodraethu ein gwasanaethau cyhoeddus?

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Rydym hefyd yn chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo llywodraethu da yn weithredol trwy:

  • gynnal byrddau crwn cydweithredol proffil uchel;
  • cefnogi datblygiadau llywodraethu rhanddeiliaid allanol;
  • ac, arwain meddyliau a sylwebaeth ar y cyfryngau.

Gwneud gwahaniaeth drwy ein gwaith ymchwil

Mae ein gwaith ymchwil yn effeithio ar bobl a pholisi, gan wneud gwahaniaeth i’n heconomi a’n cymdeithas.

Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Mae'r 'ganolfan beth sy'n gweithio' yn creu cyfleoedd pwysig i'n hymchwilwyr gydweithredu ag arbenigwyr polisi blaenllaw, i gynghori gweinidogion a hyrwyddo penderfyniadau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar bynciau sy’n cynnwys ailgylchu gwastraff, digartrefedd, caffael cynaliadwy, a mudo o’r UE.

Atebolrwydd cyhoeddus

Mae ymchwil gan yr Athro Rachel Ashworth a'r Athro James Downe wedi galluogi awdurdodau lleol i gydweithio, cynnal prosesau cyd-graffu cadarn ac effeithiol a nodi canlyniadau polisi cyhoeddus allweddol a phwyntiau dysgu sy'n deillio o gyd-graffu.

Pobl gysylltiedig

Yr Athro Rachel Ashworth

Yr Athro Rachel Ashworth

Deon Ysgol Busnes Caerdydd

Email
ashworthre@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5842
Yr Athro James Downe

Yr Athro James Downe

Professor in Public Policy and Management, Director of Research, Wales Centre for Public Policy

Email
downej@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5298
Yr Athro Arman Eshraghi

Yr Athro Arman Eshraghi

Professor of Finance and Investment, Deputy Head of Section for Research, Impact and Innovation

Email
eshraghia@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0880
Yr Athro Martin Kitchener

Yr Athro Martin Kitchener

Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Email
kitchenermj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 76951