Ewch i’r prif gynnwys

Siân ac Andrew Brooks

Mae Siân ac Andrew Brookes yn ŵr a gwraig, a nhw sydd y tu ôl i Gwmni Jin Gŵyr, distyllfa arobryn yng Nghymru sy’n cyfuno crefft, creadigrwydd a chynaliadwyedd.

Ers lansio eu busnes yn 2017 o sied feiciau yn eu cartref ar yr arfordir, maen nhw wedi datblygu brand sy’n adlewyrchu tirwedd fotanegol gyfoethog Penrhyn Gŵyr.

Mae eu hangerdd am gynhyrchu jin yn deillio o gefndir Andrew mewn daearyddiaeth a botaneg, sy'n sail i’w arbenigedd mewn chwilota a datblygu ryseitiau, a phrofiad Siân mewn strategaeth busnes a marchnata, wedi'i fireinio trwy ei gyrfa yn ddarlithydd addysg iaith ym Mhrifysgol Abertawe.

Gyda'i gilydd, maen nhw’n goruchwylio pob agwedd ar eu busnes cynhyrchu jin crefft mewn sypiau bychain, o ddatblygu cynnyrch a distyllu i frandio, gwerthu, ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae’r tîm wedi tyfu i gynnwys Laura Gilbert yn Rheolwr Gweithrediadau’r Ddistyllfa a’u mab Owain Brooks, sy’n cynnal eu digwyddiadau blasu jin poblogaidd.

Mae cwmni Jin Gŵyr wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol, gan gynnwys cael ei ethol yng nghategori Distyllfa Dewis y Diwydiant yng Ngwobrau’r Gin Guide 2022.

Gynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol

Y tu hwnt i grefftio gwirodydd premiwm, mae Siân ac Andrew wedi ymrwymo i gynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol. Nhw yw'r cyntaf i ddefnyddio codenni ecogyfeillgar y mae modd eu hail-lenwi, ac mae eu distyllfa yn cael ei phweru'n gyfan gwbl gan drydan gwyrdd. Mae eu hymroddiad i gyfrifoldeb amgylcheddol yn ymestyn i becynnu cynaliadwy, polisi dim plastig, ac maen nhw’n prynu cynhwysion gan gyflenwyr moesegol.

Yn ystod pandemig COVID-19, fe wnaethon nhw ddangos eu dyfeisgarwch trwy newid yn gyflym i gynhyrchu hylif diheintio dwylo a gymeradwywyd gan Sefydliad Iechyd y Byd i gynorthwyo gweithwyr rheng flaen. Aethon nhw ati i werthu’r diheintydd yma ar-lein er mwyn talu am gyfleusterau gofal iechyd ar draws Penrhyn Gŵyr ac Abertawe - nhw oedd un o’r distyllfeydd cyntaf yn y DU i wneud hynny.

Mae prosiectau yn y dyfodol yn cynnwys meithrin partneriaethau newydd, datblygu cynnyrch newydd, sef gwirodydd heb alcohol a chaniau parod i’w hyfed, a mentro i fyd gwirodydd arbenigol.

Gweithgareddau gydag Ysgol Busnes Caerdydd

Mae Siân ac Andrew yn cyfrannu’n frwd at addysg entrepreneuriaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd. Ers 2020, maen nhw wedi bod yn ymwneud â phrosiectau marchnata byw, darlithoedd gwadd, ac ymweliadau myfyrwyr i’w safle, gan gynnig cipolwg amhrisiadwy ar frandio, arloesi cynnyrch, ac arferion busnes cynaliadwy.

Mae eu hymgysylltiad yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, gan eu bod wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau ASPECT Innovation ac wedi noddi Gardd Jin Cynhadledd yr Academi Farchnata, a ddaeth yn uchafbwynt i'r rhai oedd yn bresennol.

Enwebwyd Siân a Andrew i fod yn entrepreneuriaid preswyl gan yr Athro Carolyn Strong.