Ewch i’r prif gynnwys

Helen Taylor

Efallai nad yw goruchwylio trawsnewid Forest Green Rovers FC i fod 'y clwb pêl-droed mwyaf gwyrdd yn y byd' yn ymddangos fel tasg i rywun a hyfforddwyd yn Dechnolegydd Bwyd ond, yn debyg i ran helaeth o yrfa amrywiol Helen Taylor, mae'n arwydd o awydd i wneud gwahaniaeth.

Mae popeth y mae'n ei wneud yn helpu pobl a'r blaned i ddod yn fwy cynaliadwy a chynhwysol.

“Rwy’n defnyddio fy nygnwch, fy egni uchel a fy hoffter o gwrdd a chysylltu pobl â’i gilydd i geisio ennyn newid” meddai.

Ac, ar ôl bron i 30 mlynedd yn helpu busnesau ac elusennau i hyrwyddo eu cenhadaeth, y rhinweddau hyn a arweiniodd Helen i sefydlu ei chwmni ei hun - One Blue Marble.

Dechreuodd Helen ym maes rheoli ansawdd, gan ddod i ddeall cadwyni cyflenwi o'r fferm i'r silff a'r heriau o fodloni manylebau llym y diwydiant.

Yn 1999, ymunodd â Chymdeithas y Pridd yn ystod ffyniant organig y DU, lle bu'n cyfarwyddo'r gwaith o ardystio cynhyrchion bwyd organig, harddwch a thecstilau. Sefydlodd swyddogaeth Datblygu Busnes hefyd i gefnogi cwmnïau sy'n trawsnewid i gynhyrchu organig, gan sicrhau marchnad sicr i ffermwyr a thyfwyr.

Er mwyn ceisio marchnata manteision organig yn well, aeth Helen ymlaen i reoli cynadleddau, ymgyrchoedd a digwyddiadau cyhoeddus ar gyfer adran elusennol Cymdeithas y Pridd, gan ddod yn Gyfarwyddwr Datblygu yn 2008, lle bu'n arwain mentrau codi arian yn llwyddiannus.

Yn 2010, cofleidiodd Helen her newydd drwy ymuno ag Ecotricity i hyrwyddo'r genhadaeth i greu Prydain Werdd. Cynrychiolodd y cwmni mewn digwyddiadau amrywiol a chwaraeodd ran allweddol pan feddiannodd Ecotricity Forest Green Rovers, ac yn y pen draw daeth yn Brif Swyddog Gweithredol y clwb pêl-droed yn 2017. Helpodd Helen i wireddu gweledigaeth y cadeirydd y byddai'r clwb yn cynrychioli delfrydau gwyrdd Ecotricity, gan gynnig lle i bobl ddysgu a chael eu hysbrydoli gan arferion cynaliadwy.

Helen Taylor CEO

Erbyn 2018, a hithau bellach yn grëwr newid profiadol, aeth Helen ati i sefydlu One Blue Marble i helpu busnesau ac elusennau i hyrwyddo eu hachos, eu cefnogi i greu dyfodol cynaliadwy, a sicrhau gwir newid.

Yn ogystal ag Ecotricity a Forest Green Rovers, mae cleientiaid One Blue Marble yn cynnwys: Neptune's Pirates UK (Sea Shepherd UK gynt), Sefydliad Prydain Werdd, Cymuned FGR, yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy ac aelodaeth o Fwrdd Catalyse Change.

Gweithgareddau gydag Ysgol Busnes Caerdydd

Mae Helen wedi cyfrannu yn Ysgol Busnes Caerdydd fel siaradwr gwadd, gan ymgysylltu â myfyrwyr MBA ar y modiwl marchnata, a gyda myfyrwyr MSc Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth. Bu hefyd yn hwyluso ymchwil Dr Anthony Samuel gyda Forest Green Rovers, clwb pêl-droed sy'n ymroddedig i gynaladwyedd.

Ym mis Tachwedd 2023, hwylusodd Helen Hacathon Cyhoeddus y Fro yn Ysgol Busnes Caerdydd, lle defnyddiodd 160 o fyfyrwyr ôl-raddedig eu gwybodaeth a'u sgiliau i ddyfeisio datrysiadau arloesol i heriau'r byd go iawn ar gyfer tri sefydliad a ysgogir gan bwrpas.