Ewch i’r prif gynnwys

Esther-Hope Gibbs

Cafodd Esther ei swydd gyntaf mewn caffi lleol pan oedd yn 14 oed. A golwg, sŵn a gwynt amryw fathau o goffi o’i chwmpas yno, mae’n dwli ar y ffa duon ers hynny.

Yn ystod 10 mlynedd ei gyrfa, mae hi wedi gweithio’n amser llawn mewn siopau coffi a swyddi rheoli ac yn gyfarwyddwr a phennaeth coffi Manumit Coffee Roastery.

Yn y rôl honno y dechreuodd feithrin perthynas arbennig ag Ysgol Busnes Caerdydd.

Meddai Esther: “Cwrddon ni â Rachel Ashworth a Jean Jenkins yn 2017 pan ymwelon nhw â’n tŷ crasu i ddysgu rhagor am ein busnes.”

“Ers hynny, rydyn ni wedi meithrin cysylltiad cryf o safbwynt busnes a moeseg fel ei gilydd.”

Parch a gobaith

Mae Manumit Coffee yn fusnes cymdeithasol sy’n cynnig parch a gobaith i’r rhai sydd wedi dianc rhag caethwasanaeth cyfoes, a hynny trwy eu hyfforddi a’u cyflogi.

Dynion a merched sydd wedi dioddef yn fawr yn nwylo masnachwyr pobl sy’n crasu’r coffi - maen nhw wrthi’n newid eu bywydau er gwell bellach.

Yn y tŷ crasu yng Nghaerdydd, maen nhw’n cynhyrchu coffi ardderchog sy’n gwrthsefyll caethwasanaeth diweddar ar dair lefel:

  • Prynu mathau penodol o ffa coffi oddi wrth gyflenwyr moesegol sydd heb gadw caethweision.
  • Hyfforddi a chyflogi’r rhai sydd wedi dianc rhag caethwasanaeth diweddar yn rôl craswyr coffi.
  • Buddsoddi’r elw i gyd mewn prosiectau lleol a rhyngwladol yn erbyn caethwasanaeth.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Esther wedi rhoi ei harbenigedd proffesiynol ac academaidd ar waith trwy gynnal gweithdai a rhoi darlithoedd ar gaethwasanaeth diweddar, mentrau cymdeithasol a chadwyni cyflenwi yn yr Ysgol.

Gan gydweithio’n agos â’r Dr Carolyn Strong, fe ofynnodd i israddedigion cwrs BSc Rheoli Busnes (Marchnata) yr Ysgol lunio pecyn samplau i’w anfon i siopau coffi a swyddfeydd i hyrwyddo Manumit.

Er ei bod yn ymwneud â Manumit o hyd wrth roi ar waith strategaethau mae rhai o fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd wedi’u llunio, dechreuodd Esther fenter newydd yn 2019 - Hope Espresso.

Gan ddefnyddio ei phrofiad yn hyfforddwr AST a barista trwyddedig (Gradd Q a thystysgrif SCA) ynghyd â’i medrau bragu, crasu a phrofi coffi, nod menter gymdeithasol Esther yw cysylltu pobl â’i gilydd trwy ddiwydiant coffi, o’r cnwd i’r cwpan.

“Dylai coffi fod yn gynnyrch sy’n grymuso pobl ar hyd y ffordd trwy gadwyn y cyflenwi heb gymryd mantais o neb, gan ofalu y bydd ffermwyr yn cael mwy na dim ond digon ar gyfer eu costau gwaith a byw - mae hynny’n rhoi imi agwedd unigryw ac anthropolegol ar hyfforddiant ym maes coffi.”

Y Dr Carolyn Strong enwebodd Esther.