Ewch i’r prif gynnwys

Eifion and Amanda Griffiths

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Sefydlodd Eifion ac Amanda Melin Tregwynt, busnes Cymreig eiconig sy’n cyfuno’r grefft hirsefydlog o wehyddu gwlân â dylunio traddodiadol.

Eifion and Amanda Griffiths

Sefydlodd Eifion ac Amanda Melin Tregwynt, busnes Cymreig eiconig sy’n cyfuno’r grefft hirsefydlog o wehyddu gwlân â dylunio traddodiadol.

Yn 2022, trosglwyddodd Melin Tregwynt y cwmni i Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr, gan drosglwyddo perchnogaeth i’w 42 o weithwyr. Maent wedi ymddeol yn ddiweddar ond yn parhau i fod yn gyfarwyddwyr ar fwrdd yr ymddiriedolaeth.  Mae'r newid hwn i berchnogaeth gweithwyr wedi diogelu swyddi, wedi cadw sgiliau gwerthfawr, ac wedi cynnal y busnes fel ased cymunedol.

Cefndir

Wedi’i phrynu gan dad-cu Eifion, Henry, ym 1912, mae’r felin yn Sir Benfro wedi bod yn y teulu ers dros 100 mlynedd. Mae'r cwpl wedi datblygu a meithrin y felin ers 1986 ac mae bellach yn atyniad poblogaidd i dwristiaid..

Yn rhan annatod o dapestri cyfoethog y gymuned fusnes Gymreig, mae Melin Tregwynt yn cynhyrchu nwyddau defnyddwyr a masnach ar gyfer marchnadoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae gwerth cyhoeddus yn ganolog i strategaeth fusnes Melin Tregwynt. Nod eu partneriaeth â CIC Gwlân Cambrian, cwmni budd cymunedol, yw hwyluso prynu a phrosesu gwlân a gynhyrchir ar ffermydd ardal Mynyddoedd Cambria yng Nghymru, at ddefnydd masnachol.

Mae’n un o bedair menter wledig sydd â’r nod o gefnogi a datblygu’r cymunedau ffermio ucheldir yn y DU, ac mae’n enghraifft o ymrwymiad Melin Tregwynt i fod yn fusnes cynaliadwy gan ddefnyddio deunyddiau o ffynonellau moesegol a lleol lle bo modd.

Gweithgareddau gydag Ysgol Busnes Caerdydd

Maent wedi cynnal ymweliadau myfyrwyr â Melin Wlân Melin Tregwynt ac wedi rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr israddedig, gan rannu eu stori am fodel busnes ansafonol iawn.